Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rheolwyr newydd ar gyfer Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau na fydd bellach yn rheoli Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig unwaith y bydd y brydles bresennol yn dod i ben yn 2020.

Ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn rheoli'r safle ar ran ei berchnogion, Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig, gyda phrydles yn ei lle i wneud hynny tan 31 Rhagfyr 2019.

Ers 2010, mae'r cyngor a'r ymddiriedolaeth wedi bod yn ystyried trosglwyddo’r gwaith o reoli’r warchodfa i sefydliad newydd sydd â'r gallu i fuddsoddi yn y safle, gwella profiad cyffredinol ymwelwyr a sicrhau ei bod yn gallu parhau'n gynaliadwy'n ariannol.

Mae pwysau cyllidebol parhaus a'r angen i wneud arbedion o filiynau o bunnoedd wedi golygu bod y broses hon yn fwy tyngedfennol nag erioed, ac mae'r cyngor wedi rhoi gwybod i'r ymddiriedolaeth a Cyfoeth Naturiol Cymru nad yw'n bwriadu ailymgeisio am y brydles.

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig yn gyfleuster unigryw ac mae'r cyngor yn falch o fod wedi chwarae rhan sylweddol yn gwarchod ei chynefinoedd niferus a sicrhau bod y cyhoedd wedi gallu mwynhau ei phrydferthwch naturiol.

Am bron i ddegawd nawr, rydym wedi bod yn paratoi cynlluniau i gefnogi rheolwyr newydd a fydd â'r gallu i wella’r warchodfa a manteisio ar ei photensial wrth barhau i warchod ei chynefinoedd pwysig.

Ar hyn o bryd, mae Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig yn penodi sefydliad rheoli newydd i ofalu am y warchodfa. Mae'r cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chefnogi â'r broses hon, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed pwy fydd y rheolwyr newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio.

Yn cwmpasu oddeutu 1300 erw, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig yn cynnwys cymysgedd o dwyni arfordirol ac amgylcheddau tir gwlyb ac yn cael ei hystyried fel un o'r enghreifftiau harddaf o gynefin twyni tywod yn Ewrop. 

Yn gartref i nifer o rywogaethau prin o anifeiliaid a phlanhigion megis tegeirian y fign galchog, roedd unwaith yn un llinyn anferthol o dywod a oedd yn ymestyn o Aber Afon Ogwr hyd at Benrhyn Gŵyr.

Cafodd ei dynodi fel safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn 1953, Gwarchodfa Natur Leol yn 1978, Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn 1989, ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig yn 2006.

Y fenter fwyaf diweddar i'w sefydlu yn y warchodfa yw prosiect dwy flwydd a fydd yn sicrhau y bydd y safle yn y cyflwr gorau yn barod i'w throsglwyddo i ddwylo newydd.

Wedi'i enwi'n Dunes 2 Dunes, mae'r prosiect yn ceisio cynyddu bioamrywiaeth, gwella cynefinoedd, adnewyddu llwybrau a ffiniau, ac addysgu ymwelwyr am yr amgylchedd lleol.

Chwilio A i Y