Rhaglen werth £400k i wella palmentydd ar waith
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 02 Tachwedd 2018
Gyda gwerth £1.5m o waith i ail-wynebu rhai o lwybrau a ddefnyddir fwyaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dod i ben, mae rhaglen werth £400k i wella palmentydd nawr yn cael ei rhoi ar waith.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae mwy na dwsin o ffyrdd gan gynnwys y B4281 trwy Gefn Cribwr, y B4181, Heol Llangrallo ger Bracla, pen yr A4061 Ffordd Mynydd y Bwlch, cylchfannau Ewenni a Park Plaza ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a chyffordd Stormy Lane ar yr A48 i gyd wedi eu hailwynebu yn barod am y gaeaf.
Erbyn y gwanwyn, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd wedi gwella'r llwybr cerdded ar hyd 16 o strydoedd trwy'r fwrdeistref sirol gan wneud unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol a mynd i'r afael â phroblemau draeniad.
Mae gwelliannau wedi'u gwneud yn barod i'r palmant ar Heol Onnen yng Ngogledd Corneli, ac mae gwaith wedi dechrau yn Fairfield, Gogledd Corneli a Dol Afon, Pencoed.
Caiff llwybrau cerdded hefyd eu gwella ar hyd adrannau o’r strydoedd canlynol: Stryd y Dywysoges (Maesteg), Blosse Street (Nantyffyllon), East Avenue (Cefn Cribwr), West Avenue (Cefn Cribwr), Rhodfa’r Gorllewin (Porthcawl), Burns Crescent (Bryntirion), Brynffrwd Close (Llangrallo), Maes Y Wern (Pencoed), Heol Dewi Sant (Bettws), Hill View (Pontycymer), Rhes Moira (Bro Ogwr) a Kenry Street (Evanstown).
Roeddem yn ddiolchgar i dderbyn grant o £1.25m gan Lywodraeth Cymru tuag at y gost o ail-wynebu nifer o brif ffyrdd y nodwyd gan arolygon technegol fel rhai y mae angen gwaith arnynt. Gan fod ffyrdd a phalmentydd diogel yn angenrheidiol, rydym yn hapus i roi £250k arall tuag at y gwaith o ail-wynebu a hefyd rydym yn ariannu menter gwerth £400k i wella nifer o lwybrau cerdded dros y misoedd nesaf.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau