Rhaglen seibiant byr newydd wedi’i lansio ar gyfer gofalwyr di-dâl yng Nghanolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Iau 17 Mawrth 2022
Mae Gwasanaethau Hamdden Halo wedi lansio rhaglen seibiant byr newydd a llwyddiannus ar gyfer gofalwyr di-dâl mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) yng Nghanolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r fenter wedi’i chefnogi gan raglen cymorth seibiant Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr di-dâl ac yn rhan o raglen ehangach sy’n cynnwys ystod o bartneriaid trydydd sector.
Nod y rhaglen yw cefnogi iechyd a llesiant gofalwyr di-dâl sy’n gyfrifol am oedolion a phlant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, drwy gyfres o sesiynau therapi holistig, am ddim, yn y ganolfan.
Mae’r rhaglen yn cynnwys defnydd llawn o’r cyfleusterau ystafelloedd iechyd a thynhau, cyngor ar ddeiet a maeth, ochr yn ochr ag ymarferion ymlacio sydd hefyd yn cael eu cynnig.
Mae’r sesiynau wedi bod yn cael eu cynnal dros ddwy awr bob dydd Mawrth yng Nghanolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae modd trefnu darpariaeth gofal amgen, fel bod gofalwyr di-dâl yn cael seibiant o’u hymrwymiadau er mwyn mwynhau’r gweithgareddau llesiant.
Gall gofalwyr di-dâl sy’n dymuno manteisio ar y rhaglen gysylltu â jess.jaques@haloleisure.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Dywedodd Ryan Statton, Rheolwr Cymunedau Actif Gwasanaethau Hamdden Halo:
"Mae nifer o ofalwyr ledled y DU wedi blino’n lân ac yn profi iechyd gwael o ganlyniad i’w cyfrifoldebau.
"Felly, rydym ar ben ein digon ein bod yn medru cynnig y rhaglen hon sydd wir yn ceisio galluogi gofalwyr i reoli eu llesiant eu hunain.
“Rydym yn falch iawn ein bod yn medru cynnig hyn gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac rydym wedi bod yn gweld canlyniadau arbennig hyd yn hyn.”
Mae’n gyfle gwych i ofalwyr di-dâl yn y fwrdeistref sirol gael seibiant a cheisio help gyda’u hiechyd meddwl a’u llesiant, ac rwy’n hynod falch ei fod hefyd yn gyfle i bobl gwrdd ag eraill o wahanol gefndiroedd ond gyda’r un cyfrifoldebau, a chael cyfle i wneud ffrindiau am oes. Rydym yn deall y gall cyfrifoldebau gofalu amrywio o un person i’r llall, ac os ydych chi’n ofalwr di-dâl, mae croeso i chi gysylltu â ni er mwyn i ni allu ystyried gwahanol ffyrdd o’ch cefnogi chi, os oes angen.
Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol: