Rhaglen effeithlonrwydd ynni newydd i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 17 Ebrill 2019
Bydd cannoedd o gartrefi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gymwys i gael cyllid newydd yn hwyrach ymlaen eleni i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni sydd â'r nod o leihau biliau tanwydd.
Mae Aelodau’r Cabinet yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno y bydd yr awdurdod lleol yn cymryd rhan yn rhaglen effeithlonrwydd ynni domestig ddiweddaraf Llywodraeth Cymru sy'n cael ei chreu gyda'r nod o fynd i’r afael â thlodi tanwydd ledled Cymru.
Ystyrir bod cartref mewn tlodi tanwydd os yw dros 10 y cant o incwm y teulu yn cael ei wario ar ynni a dywedir bod cartref sy'n gwario mwy nag 20 y cant o’i holl incwm ar ynni mewn tlodi tanwydd difrifol.
Erbyn 2021, bydd £54 miliwn yn cael ei fuddsoddi drwy'r rhaglen mewn gwelliannau effeithlonrwydd ynni mewn dros 6,000 o gartrefi yng Nghymru lle mae tlodi tanwydd yn gyffredin.
Bydd y cyllid yn dod o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru a chwmnïau cyflenwi ynni drwy'r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni.
Bydd Arbed am Byth, sef menter ar y cyd rhwng Everwarm a'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, yn darparu'r rhaglen ar ran Llywodraeth Cymru.
Rydym yn cefnogi i'r carn unrhyw fentrau sy’n helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn ein cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithredu rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig ers mwy na degawd erbyn hyn, gan ddod â llawer o fuddion yn eu sgil i drigolion lleol, ac rwyf yn teimlo’n gyffrous iawn ynghylch yr hyn y bydd y rhaglen ddiweddaraf hon yn ei gyflawni.
Nawr ein bod wedi cytuno i gymryd rhan, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag Arbed am Byth a Llywodraeth Cymru i benderfynu ymhle yn lleol rydym am gynnig y rhaglen er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf bosibl.
Ar y dechrau fel hyn, rydym yn meddwl y byddai ward Morfa yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn addas, yn ogystal â rhai lleoliadau ym Mynydd Cynffig, Corneli, Cefn Cribwr a’r Pîl. Ond mae angen ystyried ychydig mwy ar yr union leoliadau cyn anfon llythyrau yn hwyrach ymlaen eleni at yr holl drigolion rydym yn eu gwahodd i fod yn rhan o'r rhaglen, ar y sail eu bod yn bodloni rhai meini prawf penodol. Byddwn yn cyhoeddi'r manylion yn llawn cyn gynted â phosibl ar ffurf ymgyrch codi ymwybyddiaeth helaeth.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Gymunedau
Ymysg y mesurau arbed ynni y gellid eu hariannu drwy’r rhaglen mae atal drafftiau, bylbiau ynni isel, inswleiddio atig, inswleiddio waliau ceudod, inswleiddio waliau allanol, falfiau thermostatig ar gyfer rheiddiaduron, systemau gwres canolog, rheiddiaduron a thechnolegau adnewyddadwy fel pympiau gwres a phaneli solar.