Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Rhaglen arloesol sy'n darparu cymorth dwys i’r rhai sy'n agored i niwed ac yn rhieni i fabanod newydd-anedig yn helpu i atal nifer o fabanod rhag mynd i mewn i'r system ofal

Mae rhaglen arloesol, a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac sy'n darparu cymorth dwys i rieni sy'n agored i niwed, cyn ac ar ôl genedigaeth, wedi helpu i atal nifer o fabanod rhag dod i mewn i'r system ofal.

Mae'r rhaglen Meddwl am y Baban, a ddechreuodd ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Ebrill 2018, yn cynnwys tîm arbenigol sy'n gweithio gyda rhieni plant sydd mewn perygl o ddod i mewn i'r system ofal.

Mae'r tîm, sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymorth i deuluoedd, yn darparu help a chyngor ymarferol i rieni, gan ymweld â nhw hyd at ddwywaith y dydd yn ystod chwe mis cyntaf bywyd y plentyn.

Cyn genedigaeth y plentyn, mae rhieni'n derbyn ymweliadau wythnosol a chymorth yn ôl yr angen – gall gynnwys bopeth o helpu i ddarganfod tŷ neu aros ynddo, i arweiniad ynghylch diheintio poteli, bwydo o'r fron a newid babi, yn ogystal â mynychu grwpiau paratoi rhieni.

Unwaith mae'r baban yn cyrraedd, mae rhieni'n derbyn ymweliadau dyddiol, gan gynnwys dros y penwythnos, ac mae aelodau o'r tîm yn helpu i ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol.

Gall hyn olygu dangos sut i dylino baban a darparu cyngor ar bwysigrwydd cadw cysylltiad llygad, canu a thawelu, yn ogystal â chymorth mwy ymarferol fel golchi dillad a gofalu am y baban tra bo'r fam neu'r tad yn dal i fyny ar gwsg.

Yn ei flwyddyn gyntaf, gweithiodd y tîm ochr yn ochr â 38 o deuluoedd ac roedd 87% o'r babanod y rhoddodd y tîm gefnogaeth iddynt wedi gallu aros yn ddiogel yn y cartref teuluol.

O ganlyniad, bu gostyngiad o 50% yn nefnydd lleoliadau rhieni a babanod gan yr awdurdod lleol o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Dyfeisiwyd y rhaglen gan David Wright, Rheolwr Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd y cyngor, ac Iain McMillan, y Rheolwr Gofal Cymdeithasol i Blant, ar ôl gweld bod mwy na thraean o'r plant a oedd yn dod i mewn i'r system ofal o dan un oed.

Mae awdurdodau lleol eraill yng Nghymru bellach yn ystyried gweithredu'r model, a chafodd rhaglen Babi a Fi ei sefydlu yng Nghasnewydd yn 2019.

Mae'r tîm ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i enwebu ar gyfer Gwobr Gofal Cymdeithasol Cymru, ac mae wedi clywed yn ddiweddar ei fod wedi cyrraedd dau olaf y rhestr fer, o 27 o geisiadau.

Mae'r gwobrau cenedlaethol yn cydnabod, dathlu a rhannu arfer rhagorol mewn gwaith cymdeithasol. Tra'r oedd y tîm yn aros i glywed ym mis Ebrill a oeddent wedi ennill ai peidio, bu oediad i'r cyhoeddiad oherwydd pandemig y coronafeirws.

Dywedodd Mr Wright: “Mae'r rhaglen yn ymwneud â sicrhau bod rhieni'n iawn a'u helpu gydag unrhyw beth maen nhw angen ei wneud.

“Mae llawer o'n teuluoedd yn eithaf ynysig ac mae angen help llaw arnynt.

“Rydym yn treulio amser gyda'r teulu er mwyn sicrhau eu bod yn ymdopi, ac yn cael digon o gwsg, ac rydym yn edrych ar bethau fel diheintio poteli a sut i drefnu pethau.

“Rydym yn ystyried anghenion y teulu ac yn modelu popeth i ddiwallu’r anghenion hynny.

“Gall fod yn waith dwys iawn, gan ein bod yn cynnal ymweliadau hyd at ddwywaith y dydd.

“Mae teuluoedd yn gwerthfawrogi'r amser ychwanegol i drafod pethau a chael gwybodaeth, sy'n sicrhau bod cyngor ar sut i ofalu am eu baban mewn ffordd ddiogel ac effeithiol wedi'i ddeall gan y ddau riant ac y gallan nhw wedyn ddangos yr hyn y maen nhw wedi'i ddysgu.

“Mae adborth yn dangos eu bod yn ddiolchgar iawn o dderbyn y gwasanaeth ac maent yn teimlo nad mater o ofalu am eu baban yn unig yw e, ond y pecyn cyfan o fod yn deulu, gyda chymorth ar gadw cyllideb, sefydlu trefn arferol a chael cymorth ag apwyntiadau amrywiol.

“Mae'r newid yn y ffordd o fyw pan mae baban newydd yn cyrraedd yn adeg sy'n llawn straen, ac mae'r gwasanaeth Meddwl am y Baban yn darparu cymorth ychwanegol, gan helpu i leihau'r straen ac, mewn llawer achos, eu galluogi i gadw eu baban.”

Dywedodd Mr McMillan: “Mae'r rhaglen yn dangos pwysigrwydd ystyried dull y teulu yn ei gyfanrwydd a gweithio mewn partneriaeth.

“Mae'r cydweithrediad amlasiantaethol yn gallu asesu a diwallu anghenion plant a'u teuluoedd o ran llety, iechyd ac addysg, ac mae'r gwaith dwys, sy'n seiliedig ar gydberthnasau, gyda'r teulu cyfan yn helpu i gyflawni'r newidiadau angenrheidiol ar gyfer osgoi dwyn achosion lle caiff plant eu derbyn i'r system ofal.

“Mae'n sefyllfa sy'n gofyn llawer yn emosiynol – mae meithrin ymddiriedaeth yn hanfodol.

“Mae canlyniad y broses yn golygu arbedion cost a budd ar gyfer yr awdurdod, ond yn llawer pwysicach na hynny yw bod y canlyniadau ar gyfer y plentyn a'r teulu yn well.”

Chwilio A i Y