Ravens Pen-y-bont ar Ogwr yn helpu i hyrwyddo strydoedd glanach ac ailgylchu
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 15 Medi 2021
Bydd Clwb Rygbi Ravens Pen-y-bont ar Ogwr yn taclo rhywbeth dra gwahanol, sef casglu sbwriel ar ôl iddynt ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i hyrwyddo strydoedd glanach ac ailgylchu.
Bydd byrddau hysbysebu yn cael eu gosod ar dir y clwb, Cae’r Bragdy, ar ôl i'r Ravens ddatgan eu cefnogaeth i brosiect 'Ei Charu a'i Chadw'n Lân' yr awdurdod lleol ac ymgyrch 'Bydd Wych' WRAP Cymru.
Bydd aelodau'r tîm, sy'n chwarae yn Uwch Adran Cymru, hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau cymunedol dros y flwyddyn fel casglu sbwriel a'r rhai sy'n helpu i hyrwyddo ailgylchu.
Dywedodd Craig Thomas, rheolwr masnachol Ravens Pen-y-bont ar Ogwr: "Fel clwb, rydym yn ymwybodol iawn o'n cyfrifoldebau i'r gymuned a'r amgylchedd, felly roedd yn wych sicrhau partneriaeth o'r math hwn gyda'r awdurdod lleol.
"Dyma un o'n camau cynnar i ddod yn glwb 'gwyrddach', ond mae gennym gynlluniau eraill eisoes ar waith gan gynnwys fan tîm hybrid trydan a ffordd fwy effeithlon o ailgylchu cwpanau sy'n addas i'r awyr agored ar ddiwrnodau gêm.
"Rwy'n gwybod o brofiad uniongyrchol blaenorol pa mor ymroddedig yw tîm y cyngor o ran hyrwyddo ailgylchu a strydoedd glanach ar draws y fwrdeistref sirol, a bydd yn wych cael y chwaraewyr i gymryd rhan yn rhai o'r mentrau lleol, ymarferol a fydd, gobeithio, yn helpu i ysbrydoli eraill."
Mae'r ymgyrch ‘Ei Charu a’i Chadw'n Lân’ yn gydweithrediad rhwng y cyngor, Cadwch Gymru'n Daclus a chynghorau cymunedol lleol. Ei nod yw annog pobl i beidio â gollwng sbwriel a phwysleisio canlyniadau hynny.
Nod ymgyrch 'Be Mighty' WRAP Cymru yw gwella safle Cymru o'r trydydd i rif un yn y byd ar gyfer ailgylchu. Bydd yr ymgyrch yn cefnogi Wythnos Ailgylchu a gynhelir rhwng 20 a 26 Medi a dyma'r ymgyrch ailgylchu flynyddol genedlaethol fwyaf, sydd bellach yn ei deunawfed blwyddyn.
Dros y degawd diwethaf, mae ein cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu’n sylweddol ac mae ymgyrchoedd fel ’Ei Charu a'i Chadw'n Lân' a ’Bydd Wych’ yn chwarae rhan enfawr wrth godi ymwybyddiaeth o ailgylchu ac effeithiau taflu sbwriel.
Hoffem ddiolch i Ravens Pen-y-bont ar Ogwr am gynnig eu cefnogaeth i'n hymdrechion i wella ailgylchu ar draws y fwrdeistref sirol a lleihau sbwriel ar ein strydoedd.
Dirprwy Arweinydd Hywel Williams