Pwyllgor Cydraddoldeb i ystyried adroddiad ar gysylltiadau â Syr Thomas Picton
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 21 Awst 2020
Bydd Pwyllgor Cydraddoldeb Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cwrdd yr wythnos nesaf i drafod adroddiad ar gysylltiadau hanesyddol yr ardal â Syr Thomas Picton, llywodraethwr dadleuol Trinidad.
Mae'n dilyn protestiadau cenedlaethol a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn fel rhan o'r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys pan ofynnwyd i awdurdodau lleol ystyried pa gerfluniau, cofadeiladau, adeiladau, parciau, meysydd chwarae a strydoedd a all fod â chysylltiadau ag unigolion a feirniadwyd fel rhan o'r protestiadau.
Mae'r adroddiad yn amlinellu sut mae wyth stryd – tair ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dwy ym Mhorthcawl, un ym Mynydd Cynffig ac dwy yn Nantyffyllon – sydd wedi'u cysylltu â'r enw Picton. Mae hefyd yn nodi dwy ffynhonnell bosib ar gyfer hyn, Syr Thomas Picton, llywodraethwr Trinidad, a Lefftenant-Cyrnol Thomas Picton-Turberville, cyn-berchennog Priordy Ewenni.
Nid yw'r ymchwil hyd yn hyn wedi gallu cadarnhau'n derfynol sut cafodd y strydoedd eu henwi, neu a ydynt yn gysylltiedig â Syr Thomas Picton.
Mae'r adroddiad yn argymell bod hanesydd yn gwneud rhagor o ymchwil a all gael ei hystyried wedyn unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ei hadolygiad cenedlaethol o gofadeiladau, cerfluniau ac adeiladau cyhoeddus hanesyddol Cymru.
Mae'r adroddiad yn amlinellu ymhellach sut mae proses gyfreithiol gyfredol ar waith i gefnogi preswylwyr sy'n dymuno newid enw stryd.
Mae’r broses hon yn ystyried materion fel ymgynghori priodol â phreswylwyr a busnesau yr effeithir arnynt, y Post Brenhinol, a chynghorau tref a chymuned lleol, yn ogystal â gwneud newidiadau angenrheidiol i ddogfennau swyddogol fel gweithredoedd morgais a mwy.
Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb yn cwrdd i drafod yr adroddiad am 10am ddydd Llun 24 Awst.