Pwll Nofio y Pîl yn elwa o fuddsoddiad gwerth £200,000
Poster information
Posted on: Dydd Iau 18 Awst 2022
Mae gwaith adnewyddu sylweddol yn mynd rhagddo ym Mhwll Nofio y Pîl, diolch i fuddsoddiad gwerth £200,000 gan Halo Leisure a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r gwaith yn cynnwys creu ystafelloedd newid modern a hygyrch ar gyfer teuluoedd yn yr ardaloedd newid i ferched a dynion, ynghyd ag unedau ymolchi newydd, cawodydd sy'n effeithlon o ran ynni a thua 30 ciwbicl newydd.
Mae trefniadau hefyd i osod nenfydau newydd a goleuadau sy'n effeithlon o ran ynni fel rhan o'r gwaith adnewyddu, a byddant yn cwblhau'r gwaith yn yr ardaloedd newid.
Mae ardaloedd newid hygyrch hefyd yn cael eu hadeiladu ar ochr y pwll, yn cynnwys yr offer diweddaraf ac yn creu gwell ardal o lawer ar gyfer pobl sydd angen cymorth ychwanegol wrth newid.
Rydym ar ben ein digon bod y gwaith moderneiddio ym Mhwll Nofio y Pîl bron â dod i ben. Mae hefyd yn galonogol bod y diweddariadau hyn wedi'u datblygu i ystyried mesurau lleihau carbon a hygyrchedd penodol.
Bydd y cyfleusterau newydd yn golygu bod y pwll yn fwy effeithlon o ran ynni, yn gwella cyfleusterau ar gyfer yr holl gwsmeriaid ac yn sicrhau bod yr adeilad yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dywedodd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd y cyngor ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar:
Yn ogystal, bydd gwaith adnewyddu sylweddol yn digwydd yng Nghanolfan Chwaraeon Maesteg yn ddiweddarach eleni, a disgwylir i Bwll Nofio Maesteg gael Pod pwll newydd, er mwyn gwneud mynediad i'r pwll yn haws.