Prydau ysgol rhad ac am ddim
Poster information
Posted on: Dydd Llun 19 Hydref 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi croesawu'r newyddion bod Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid gwerth £11m er mwyn sicrhau bod plant bregus yn gallu elwa o brydau ysgol rhad ac am ddim yn ystod gwyliau ysgol.
Bydd yr arian, a gadarnhawyd yn gynharach heddiw gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, yn cynnwys yr holl wyliau ysgol hyd at ac yn cynnwys gwyliau'r Pasg 2021.
Dywedodd y Gweinidog ei bod yn gobeithio y bydd y cadarnhad yn darparu 'peth sicrwydd yn y cyfnod hwn o ansicrwydd' a chadarnhaodd y bydd dros £700,000 yn cael ei ddyrannu i gefnogi colegau gyda'r ddarpariaeth gyfatebol ar gyfer dysgwyr cymwys.
Mae'r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at y £7m a ddarparwyd yn ôl ym mis Medi pan gaeodd ysgolion eu drysau er mwyn amddiffyn disgyblion rhag lledaeniad coronafeirws, a'r £420,000 a ddilynodd ar gyfer plant oedd yn gwarchod ac yn hunan ynysu.
Maent wedi cyflwyno ar eu haddewid i sicrhau bod plant yn gallu parhau i elwa o'r ddarpariaeth prydau ysgol rhad ac am ddim hyd at ac yn ystod diwedd gwyliau'r haf.
Bydd y cyngor nawr yn cydweithio gyda'i bartneriaid er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio i'r holl blant cymwys gael elwa ohono, ac na fydd unrhyw blentyn yn mynd yn llwglyd dros gyfnodau gwyliau ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio