Prydau ysgol am ddim i ailgychwyn
Poster information
Posted on: Dydd Llun 26 Hydref 2020
Unwaith eto, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu parseli bwyd i blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros y gwyliau hanner tymor.
Yr wythnos hon, bydd pob disgybl sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael parsel bwyd, gyda pharseli'n cael eu danfon i gyfeiriadau cartref.
Yna, o'r wythnos sy'n dechrau ar 2 Tachwedd, dim ond y disgyblion prydau ysgol am ddim hynny ym Mlynyddoedd 9-13 fydd yn derbyn parsel bwyd, gan y bydd disgyblion ym Mlwyddyn 7 a Blwyddyn 8 ynghyd â disgyblion sy'n mynychu ysgolion babanod, iau, cynradd ac arbennig yn ôl yn yr ysgol.
Ni fydd unrhyw un sydd wedi optio allan o'r ddarpariaeth o'r blaen yn cael parsel bwyd.
Mae'r parsel bwyd wythnosol yn cynnwys eitemau bwyd i ddarparu brecwast a chinio i blentyn am bum niwrnod.
Mae'r parseli gwyliau hanner tymor yn cynnwys amrywiaeth o ffrwythau a llysiau ffres, pasta, sawsiau a bwyd tun.
Bydd parseli bwyd yn cael eu danfon yn y mannau canlynol ar y dyddiau canlynol:
Danfon parseli bwyd
Dydd Mawrth - Gogledd
Cwmfelin, Garth, Llangynwyd, Maesteg, Nantyffyllon a Chaerau
Nant-y-moel, Cwm Ogwr, Pantyrawel, Lewistown, Melin Ifan Ddu, Evanstown a Gilfach Goch
Blaengarw, Pontycymer, Llangeinor, Braich-Y-Cymer, Price Town, Pantygog, Pontyrhyl ac Evanstown
Dydd Mercher - Canolbarth/Gorllewin
Y Pîl, Bryn Cynffig, Cefn Cribwr, Gogledd Corneli, De Corneli, Notais, Newton a Phorthcawl
Abercynffig, Betws, Goytre-hen, Brynmenyn, Tondu, Sarn, Bryncethin, Bryncoch ac Ynysawdre
Dydd Iau - Tref/Dwyrain
Coety, Lidiard, Y Felin-wyllt, Pen-y-fai, Cefn Glas, Broadlands, Bryntirion, Bracla a Threlales
Pen-prysg, Pencoed, Llangrallo, Heol Y Cyw a Rhiwceiliog