Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Prydau bwyd ysgol am ddim i ddisgyblion oed derbyn yn dechrau mewn ysgolion cynradd lleol

Mae dechrau tymor yr hydref 2022 ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyd-fynd â lansiad y fenter newydd i sicrhau na fydd plant ysgolion cynradd yn mynd heb fwyd.

Yn dechrau’r wythnos hon, bydd bob plentyn sy’n mynychu’r dosbarth derbyn mewn ysgolion cynradd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael cynnig yr opsiwn o bryd bwyd ysgol am ddim.

Mae’r weithred yn nodi cam cyntaf y broses o gyflwyno’r cynllun Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd – menter gwerth £25m gan Lywodraeth Cymru a fydd yn gymorth i leihau pwysau’r argyfwng costau byw parhaus.

Fel rhan o’r cynllun ledled Cymru hwn, mae ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn £1.1m o gyllid i wella ac adnewyddu eu cyfleusterau cegin er mwyn cefnogi’r fenter, sydd ar y trywydd iawn i gynnwys bob grŵp blwyddyn mewn ysgolion cynradd dros y ddwy flynedd nesaf.

Rydym yn llwyr gefnogi’r fenter hon gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi ei lansio ar adeg pan fydd hefyd o gymorth i deuluoedd lleol ymdopi â phroblemau a heriau’r argyfwng costau byw.

Mae’r cam cyntaf yn targedu’r dysgwyr ieuengaf o fewn y gymuned, a bydd cam nesaf y cynllun yn gweld y cynnig yn cael ei ymestyn i ddisgyblion Blwyddyn Un a Dau cyn symud ymlaen at dargedu plant Blwyddyn Tri, Pedwar, Pump a Chwech.

Caiff cynnydd ei fonitro’n ofalus, a’n bwriad yw sicrhau y bydd holl ddisgyblion ysgolion cynradd yn derbyn y cynnig o bryd bwyd ysgol am ddim erbyn 2024.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell:

Chwilio A i Y