Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Prosiectau cymunedol i elwa ar fwy na £85k

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi £20,000 tuag at gostau gosod trac athletau newydd yng Nghaeau Newbridge, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’n un o’r chwe phrosiect cymunedol a fydd yn rhannu pot arian gwerth dros £85,000, a gytunwyd gan Aelodau Cabinet o’r awdurdod lleol drwy ei ‘Gronfa Cyngor Tref a Chymuned’. O dan delerau'r cynllun grant, mae'n rhaid i bob un o’r Cynghorau Tref a Chymuned sy'n gysylltiedig dalu o leiaf 50 y cant o gostau’r prosiect.

Cafodd y cais am gyllid er mwyn helpu i osod trac newydd yn lle’r hen drac 300m, a gafodd ei osod yn 1997 yn wreiddiol, ei gyflwyno gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr ar ran Clwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd costau cyffredinol y trac newydd yn fwy na £78,000 ac mae’r clwb athletau hefyd wedi dangos diddordeb mewn rhedeg y cyfleuster drwy gynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol, yn ogystal ag ailddatblygu’r clwb.

Mae pedwar o’r prosiectau llwyddiannus eraill sydd wedi cael cyllid grant yn cynnwys cynlluniau Trosglwyddo Asedau Cymunedol hefyd.

Ar ôl i Gyngor Tref Pencoed fynegi diddordeb mewn rhedeg Pafiliwn Maes Hamdden Pencoed ar brydles tymor hir a'r caeau o dan gytundeb rheoli tair blynedd, mae’r Cyngor wedi cael grant gwerth £20,000 tuag at gostau adnewyddu'r pafiliwn. Mae’r pafiliwn wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2018 ar ôl cael ei ddifrodi mewn storm ac mae’r cyllid yn golygu bod modd ei ailagor er budd clybiau chwaraeon, grŵp chwarae sy'n cwrdd yno a’r gymuned ehangach.

Bydd Cyngor Cymdeithas Coety Uchaf yn cael £15,416 tuag at gostau ailwampio’r ardal chwarae yng Nghastell Coety ac £14,999 i adnewyddu'r ardal chwarae yng Nghaeau Pendre cyn y cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Mae Cyngor Cymuned Corneli wedi cael £10,000 ar gyfer adnewyddu'r toiledau yng Nghanolfan Gymunedol Gogledd Corneli. Mae’r broses o gytuno ar brydles tymor hir wrthi’n mynd rhagddi er mwyn trosglwyddo’r gwaith o redeg y ganolfan i’r cyngor cymuned.

Hefyd, mae Aelodau o’r Cabinet wedi cytuno i roi dros £5,000 o gyllid tuag at arwyneb tarmac newydd ar gyfer maes parcio Parc Bedford.

Rydyn ni’n falch ein bod ni’n cefnogi pob un o’r chwe chynllun a gafodd eu cynnig i ni eleni.

Rydyn ni wedi gwneud pob ymdrech i gefnogi ceisiadau sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol er mwyn cydnabod bod gan awdurdodau lleol lai o adnoddau a chreu opsiynau i Gynghorau Tref a Chymuned ddarparu gwasanaethau gwahanol.

Rwy'n credu y bydd pob un o’r cynlluniau hyn yn rhoi budd i bobl o bob oedran yn ein cymunedau lleol. Edrychwn ymlaen at weld pob un o’r cynlluniau'n cael eu gwireddu’n fuan.

Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio

Chwilio A i Y