Prosiect treialu cerbydau trydan
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 14 Chwefror 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn arwain cynllun peilot tri mis lle bydd staff sy’n teithio ar draws y sir fel rhan o’u rolau yn defnyddio cerbydau trydan.
Mae’r awdurdod lleol wedi llogi pedair fan drydan fach yn lle’r cerbydau disel presennol – mae tair ohonynt wedi’u neilltuo i'r tîm rheoli cyfleusterau ac un yn cael ei ddefnyddio fel car cronfa ar gyfer sawl aelod o staff.
Caiff y cerbydau eu gwefru dros nos yn Cenin Renewables, ger Porthcawl, gan ddefnyddio trydan cwbl wyrdd a gynhyrchir o ynni gwastraff ynni, solar a bwyd y cwmni. Mae trefniant i ddefnyddio pwyntiau gwefru mewn busnesau lleol eraill pan fo angen.
Dywedodd Richard Young, yr aelod o’r Cabinet dros gymunedau, fod y prosiect peilot yn ddechrau ar “newid radical” i’r cyngor.
Mae’n golygu rhedeg cerbydau cyngor yn fwy effeithlon a lleihau ôl troed carbon y cyngor.
Mae gennym ni ddigon o ddata eisoes i ddangos bod cerbydau trydan yn gallu gwneud gwahaniaeth, nid yn unig i leihau allyriadau carbon ond i leihau hawliadau tanwydd hefyd, gan alluogi’r cyngor i arbed llawer iawn o amser ac arian.
Richard Young, yr aelod o’r Cabinet dros gymunedau
Nod y cynllun peilot yw profi achos busnes i gael cyllid a fyddai’n galluogi’r awdurdod lleol i brynu tua wyth pwynt gwefru cerbydau trydan ar gyfer ei swyddfeydd yn Ravens Court.
Dywedodd y Cynghorydd Young: “Byddai’r tanwydd ar gyfer cerbyd tanwydd ffosil nodweddiadol yn costio tua £11 am bob 100 milltir. £5 am bob 100 milltir fyddai’n ei gostio ar gyfer y cerbydau trydan, sy’n golygu y gallem ni arbed hanner y swm rydyn ni’n ei wario ar hyn o bryd.
“Dim ond unwaith y flwyddyn fyddai angen i’r faniau ddod i’r gweithdai i gael eu trin hefyd.
“Ar ben y manteision tymor hir o ran cost a’r amgylchedd, gallech ddadlau mai dyma ddylem fod yn ei wneud i geisio denu a chadw staff, ac mae hyn yn rhywbeth y rydyn ni’n gobeithio edrych arno yn y dyfodol agos.
“I mi, pe bai gen i gerbyd trydan ar hyn o bryd, byddai lle gallwn i weithio yn peri pryder i mi, oherwydd mae’n cyfyngu ar y swyddi gallwch chi eu gwneud os nad oes gan eich cyflogwr bwyntiau gwefru cerbydau trydan.
“Os yw ein pwyntiau gwefru ar gael i staff a bod y trefniadau parcio’n mynd i fod yn ddi-lol, dim ond da all ddod o hynny.
“Mae’n ymwneud hefyd â diogelu dyfodol y fflyd - 15 mlynedd o ddefnyddio geir disel a phetrol sydd gennym ni ar ôl, felly mae’n rhaid i ni fod yn cynllunio ar gyfer hynny.”
Bydd y pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn Ravens Court yn galluogi staff i gael mynediad at gronfa o geir trydan - yn hytrach na’r trefniant presennol sy’n defnyddio cerbydau disel.
Yn y tymor hwy, mae’r cyngor yn ystyried gosod rhagor o bwyntiau gwefru ar safleoedd eraill, fel y ganolfan ddinesig ar Stryd yr Angel, y maes parcio yn Rhiw a’r depo ym Mryncethin.
Mae’r prosiect peilot yn gydweithrediad rhwng Heddlu De Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – mae’r ddau sefydliad yn rhannu depo cynnal a chadw gwasanaethau fflyd.
Dywedodd Heddlu De Cymru y byddai ei ran yn y cynllun yn cyfrannu at ei waith ei hun yng nghyswllt defnyddio cerbydau trydan.