Profion rheolaidd ar gyfer y coronafeirws i staff ysgolion
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 24 Chwefror 2021
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, cyn bo hir bydd profion llif unffordd yn cael eu cynnig i bob aelod staff mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant cofrestredig, yn dilyn plant rhwng tri a saith oed yn dychwelyd i’r ysgol.
Mae’r profion, sydd ar gyfer y rhai nad oes ganddynt symptomau o’r coronafeirws, yn gallu cael eu cynnal gartref, ac yn rhoi canlyniad o fewn 30 munud.
Mae diogelu disgyblion a staff yn erbyn y risg o’r coronafeirws yn dal i fod yn flaenoriaeth, ac rydym yn parhau i weithio’n agos ag ysgolion i gynnal mesurau priodol i wneud hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i staff mewn lleoliadau addysg a gofal plant i gael profion ddwywaith yr wythnos, gyda phecynnau profion yn cael eu cludo i ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer staff o’r wythnos nesaf ymlaen. O 22 Mawrth, bydd profion hefyd yn cael eu cynnig i ddisgyblion oed ysgol uwchradd ym Mlynyddoedd 11 i 13. Does dim rhaid cael prawf, er ein bod yn annog pawb sy’n cael cynnig y prawf i fanteisio ar y cyfle.
Mae cynlluniau peilot diweddar yng Nghymru, a’r DU yn ehangach, wedi dangos sut y gall profion cyflym a rheolaidd gael eu defnyddio’n effeithiol, a chael effaith bositif mewn ysgolion a lleoliadau eraill. Mae’n galluogi ysgolion a lleoliadau gofal plant i helpu i ddiogelu’r gymuned rhag trosglwyddiad Covid-19 gan bobl nad oes ganddynt symptomau.
Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Charles Smith
Os yw person asymptomatig - rhywun sydd heb symptomau o’r coronafeirws - yn cael canlyniad prawf positif drwy’r profion rheolaidd, rhaid iddynt hunanynysu a threfnu i gael prawf yn un o’r canolfannau symudol neu barhaus yn y fwrdeistref sirol. Gallwch drefnu prawf yn un o’r canolfannau ar-lein, neu drwy ffonio 119.
Dyma atgoffa teuluoedd na ddylai plant fynychu’r ysgol dan unrhyw amgylchiadau os ydynt yn:
- teimlo’n sâl, neu os oes ganddynt unrhyw rai o’r tri symptom o Covid-19 (peswch newydd parhaus, tymheredd uchel neu golli blas a/neu arogl) neu os ydynt wedi cael canlyniad prawf Covid-19 positif yn y 10 diwrnod diwethaf
- byw mewn aelwyd gyda rhywun sydd â symptomau Covid-19, neu sydd wedi cael canlyniad prawf Covid-19 positif yn y 10 diwrnod diwethaf