Profi symudol yn symud i bwll nofio'r Pîl
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 19 Mawrth 2021
Mae cyfleusterau profi symudol yn parhau i fod ar gael i unrhyw un sy'n profi symptomau Covid-19 ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd cyfleuster profi gyrru drwodd symudol a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gael rhwng 9am-5pm ym Mhwll Nofio Halo ar Marshfield Avenue yn y Pîl (CF33 6RP).
Mae cyfleuster profi galw heibio hefyd ar waith rhwng 8am-8pm ym maes parcio'r Neuadd Fowlio ger Canolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AH).
Mae trefnu apwyntiad yn hanfodol ar gyfer y ddau gyfleuster hyn a gellir gwneud hyn ar wefan Llywodraeth Cymru neu drwy ffonio 119, tra gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd drefnu apwyntiad drwy ffonio 18001119.
Mae cyfraddau heintio yn parhau i ostwng ar draws y fwrdeistref sirol, ond ni allwn ymlacio. Dylai unrhyw un sy'n dangos symptomau'r coronafeirws megis peswch sych parhaus, tymheredd uchel neu newid yn eu synnwyr o flas neu arogl, drefnu prawf cyn gynted â phosib.
Gyda gwiriwr symptomau ar-lein ar gael ar wefan GIG 111 Cymru, dim ond rhai munudau mae'n cymryd i wneud prawf.
Os ydych yn symptomatig, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r cyfleusterau lleol hyn, a helpwch y gymuned wrth i ni barhau i frwydro yn erbyn lledaeniad Covid-19.
Arweinydd y Cyngor, Huw David