Preswylwyr yn cael eu hannog i wirio pa fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 02 Mawrth 2021
Mae preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i sicrhau nad ydynt yn colli allan ar unrhyw fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r ymgyrch Hawliwch yr hyn sy’n Ddyledus i Chi i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r budd-daliadau a allai gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
Yn ôl ymchwil diweddar, credir nad yw miloedd o bobl yng Nghymru yn hawlio’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Gall hyn gynnwys pethau fel Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai, Cymorth Incwm a budd-daliadau anabledd.
Os nad ydych yn sicr ynghylch pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio, gall Advicelink Cymru eich helpu i wirio. Mae'n cynnig cyngor cyfrinachol rhad ac am ddim ar ystod o bynciau, gan gynnwys budd-daliadau lles, dyled, cyflogaeth, addysg, tai, mewnfudo a gwahaniaethu.
Bydd cynghorydd hyfforddedig yn siarad â chi am eich amgylchiadau ac yn eich helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau y gallai fod gennych hawl iddynt, gan helpu i’ch cefnogi trwy'r broses hawlio a’ch helpu i lenwi unrhyw ffurflenni hawlio. Gallant hefyd eich cynghori ynghylch pa dystiolaeth y mae angen i chi ei darparu.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Advicelink Cymru ar eu llinell gymorth am ddim - 0808 250 5700. Mae’r llinell ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.