Preswylwyr Gofal Ychwanegol yn ymgartrefu’n dda
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 17 Ebrill 2019
Mae preswylwyr ‘Tŷ Ynysawdre’, lleoliad cynllun ‘Gofal Ychwanegol’ diweddaraf Pen-y-bont ar Ogwr, wedi dathlu eu cartrefi newydd drwy gynnal te pnawn arbennig.
Mae Tŷ Ynysawdre, sy'n bartneriaeth rhwng Linc Cymru (Linc) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn darparu 25 fflat gofal ychwanegol a 15 gwely preswyl i bobl dros 65 oed.
Mae gofal ychwanegol yn darparu cymorth sy’n diwallu anghenion unigol pobl tra byddant yn byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Gyda lleoedd i gymdeithasu, fel ystafell fwyta ac ystafell fyw gymunedol, yn ogystal â salon gwallt, mae Tŷ Ynysawdre yn cefnogi ac yn cynorthwyo pobl i fyw bywyd egnïol a llawn.
Ers iddynt symud i mewn ar ddechrau’r flwyddyn, mae'r preswylwyr wedi bod yn mwynhau eu fflatiau newydd a dod i adnabod eu cymdogion yn y datblygiad sydd wedi'i leoli y drws nesaf i Ysgol Gynradd Brynmenyn a Choleg Cymunedol Y Dderwen.
Roedd yr agoriad swyddogol yn gyfle i breswylwyr ddathlu ochr yn ochr â gwahoddedigion, gan gynnwys Huw Irranca-Davies AC, cynghorwyr lleol ac aelodau o staff Linc a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd y gwesteion fynd ar daith o amgylch y cynllun, cyn eistedd i lawr i fwynhau te a chacen gyda’r preswylwyr wrth iddynt rannu sut roeddynt yn ymgartrefu ac wedi cyfarfod â ffrindiau newydd.
Dywedodd Beverley Mills, Aelod o'r Bwrdd, Linc: “Roedd yn fraint cael bod yn agoriad swyddogol Tŷ Ynysawdre, sy’n wasanaeth newydd ardderchog i bobl hŷn ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd ag anghenion ychwanegol. Mae hefyd yn arddangos y bartneriaeth sy'n parhau rhwng Linc a'r Cyngor Bwrdeistref Sirol i ddarparu llety a gofal o safon uchel.
“Fe fues i’n sgwrsio â llawer o'r preswylwyr ac roeddynt wrth eu bodd â’u fflatiau newydd, yr amgylchedd moethus a'r gwasanaeth arlwyo mewn dull gwesty. Yn ei araith, fe ddywedodd y Cynghorydd Phil White bod hwn yn ‘llety 5-seren’ ac fe fyddwn yn bendant yn cytuno â hynny.”
Ar y cyd â’r datblygiad cyfatebol ym Maesteg, a fydd yn cael ei gwblhau cyn bo hir, bydd Tŷ Ynysawdre yn cynnig buddion sylweddol iawn i bobl ac mae’n rhan fawr o’r cynlluniau sydd gennym ar y gweill ar gyfer moderneiddio gwasanaethau gofal preswyl.
Rwyf yn falch dros ben bod y cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Linc Cymru i ddarparu’r asedau hollbwysig hyn i'r gymuned, ac rwy’n siŵr y bydd Tŷ Ynysawdre yn ddatblygiad pwysig a phoblogaidd a fydd yn dod yn adnabyddus iawn yn y fwrdeistref sirol.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i wneud y cyfleuster hwn yn realiti – mae’n rhywbeth y gall pob un ohonom fod yn wirioneddol falch ohono.
Cynghorydd Phil White, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Dywedodd Huw Irranca-Davies, Aelod Cynulliad Ogwr: “Roedd yn bleser o'r mwyaf i ymweld â phreswylwyr a staff Tŷ Ynysawdre, cynllun gofal ychwanegol diweddaraf Linc Cymru. Mae’n gynllun gwych ar gyfer byw â chymorth a byw’n annibynnol ac mae ganddo rywbeth i'w gynnig i bawb. Mae'r rhain wirioneddol yn gyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n darparu cyfleusterau modern i breswylwyr ac i ymwelwyr, ac mae’n destun balchder i mi fod cyllid gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi helpu i ddod â'r cyfleusterau hyn i fod.”