Preswylwyr cartref gofal yn mynd ar antur i ben draw’r byd mewn realiti rhithiol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 05 Ionawr 2022
Mae preswylwyr yng nghartrefi gofal Bryn Cae, Bracla a Thŷ Cwm Ogwr, Pantyrawel wedi eu cludo ar hyd a lled y byd a thu hwnt o gysur eu cadair freichiau diolch i dechnoleg realiti rhithiol.
Diolch i brosiect a gyflwynwyd gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cafodd y preswylwyr fwynhau anturiaethau bywyd gwyllt, hedfan i’r gofod ac ymweliadau â dinasoedd o gwmpas y byd.
Wedi’i ariannu gan Grant Cronfa Integredig Llywodraeth Cymru ‘Cymunedau Cysylltiedig’, fe weithiodd y prosiect hefo Rescape Innovation o Gaerdydd i greu 12 profiad realiti rhithiol i breswylwyr gyda dementia, gyda’r nod o ddatgloi atgofion ac ennyn sgyrsiau.
Mae’r sylwadau dwi wedi eu derbyn am y prosiect yma wedi codi calon ac ysbryd, ac mae’n dangos y gall pobl o bob oed fwynhau’r budd i les meddwl a chymdeithasol a ddarperir gan realiti rhithiol, nid dim ond y rheiny sydd fel arfer yn defnyddio technoleg.
Rydym yn ddiolchgar o’r gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a BAVO, ac yn edrych ymlaen at weithio hefo’r cyngor i gyflwyno'r prosiect yma i gartrefi gofal eraill yn y dyfodol.
Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
Un preswylydd o Bryn y Cae a wnaeth elwa o’r prosiect oedd Dolly sy’n 105 mlwydd oed. Yn wreiddiol o’r Iseldiroedd, fe wnaeth Dolly fwynhau’r profiad realiti rhithiol gardd yn arbennig a oedd yn ei hatgoffa o’r adeg pan oedd yn gofalu am blentyn anabl mewn cartref preswyl.
Mae wedi bod yn galonogol clywed sut mae’r profiadau hyn wedi caniatáu preswylwyr i hel atgofion gyda’u teuluoedd a gyda’i gilydd, a’u galluogi nhw i weithio’n agosach ac i ymwneud fwy, yn enwedig yn ystod y ddwy flynedd heriol hyn.
Mae therapi hel atgofion yn enwedig yn profi i fod yn effeithiol i bobl gyda dementia, ac mae hyn yn enghraifft wych o sut y gallwn ddefnyddio technoleg fodern i’w cynorthwyo i ddatgloi atgofion gwerthfawr ac i ymwneud ag eraill.
Cynghorydd Jane Gebbie, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar