Prentisiaid yn ymuno â gwaith adnewyddu morglawdd Porthcawl
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 01 Medi 2021
Mae pedwar prentis wedi ymuno â thîm Knights Brown i gyfrannu at y gwaith parhaus o adnewyddu Morglawdd y Gorllewin eiconig Porthcawl.
Dechreuodd gwaith yn gynharach eleni ar y cynllun gwerth £6.4m a fydd yn helpu i amddiffyn Porthcawl rhag llifogydd ac unrhyw godiad posib yn lefel y môr yn y dyfodol.
Cam cyntaf y prosiect yw canolbwyntio ar Forglawdd y Gorllewin ac ymgymryd â gwaith adnewyddu ac atgyweirio sylweddol i’r strwythur 200 blwydd oed i sicrhau ei fod yn gallu parhau i wrthsefyll y llanw a thywydd garw'r môr.
Mae sarn dros dro’n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd yn safle’r morglawdd, sydd wedi’i chreu o 6,000 tunnell o ‘graig arfogedig' wedi’i mewnfudo. Bydd hyn yn caniatáu i waith atgyweirio gael ei wneud ar ochr y môr o’r wal gynnal.
Mae bylchau cudd yn strwythur y morglawdd ac mae 16 tunnell o growt yn cael ei osod yn y bylchau bob dydd i'w gryfhau.
Oherwydd yr amrediad llanw eithafol ym Môr Hafren, dim ond bob pythefnos y gellir cael mynediad i ardaloedd penodol a gweithio arnynt gan nad ydynt yn anhygyrch heb lanw ofnadwy o isel. Hyd yn oed yn ystod y cyfnodau hyn, efallai mai dim ond cyfnod o ddwy awr sydd gan y tîm i weithio oherwydd y llanw, gan ei wneud yn gynllun cymhleth a heriol. Disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau yr haf nesaf.
Bydd ail gam y prosiect yn gweld yr arbenigwyr adeiladu, Knights Brown, yn ymgymryd â gwaith i uwchraddio Promenâd y Dwyrain i greu gwell amddiffynfeydd rhag llifogydd rhwng Marina Porthcawl a Thraeth Coney.
Yna bydd y gwaith yn ymestyn i Fae Tywodlyd a chyn belled â Rhych Point, lle bydd amddiffynfeydd llifogydd a gwaith amddiffyn twyni yn cael eu diweddaru.
Fel rhan o'u hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant, mae Knights Brown wedi croesawu pedwar prentis lleol i'r tîm yn ddiweddar gyda dau yn byw ym Mhorthcawl a Phen-y-bont ar Ogwr, a dau o Abertawe.
Hoffwn groesawu'r pedwar prentis i'r prosiect a dymuno pob lwc iddynt wrth iddynt fynd i'r afael â'r her beirianneg unigryw hon.
Mae'r prosiect yn rhan allweddol o'r seilwaith ar gyfer amddiffyn y dref rhag llifogydd, a bydd hefyd yn helpu i sicrhau datblygiad pellach yn ardal Llyn Halen ym Mhorthcawl.
Bydd yn cadw dros 500 o gartrefi a dros 170 o fusnesau yn ddiogel, ac yn diogelu asedau a seilwaith gwerth miloedd o bunnoedd.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Ariannwyd y gwaith amddiffyn rhag llifogydd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o'r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol.