Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Prawf gwrthgyrff coronafeirws a gynhyrchir ym Mhencoed yn cael ei defnyddio drwy gydol y DU

Mae prawf gwrthgyrff a gynhyrchir ym Mhencoed yn cael ei ddefnyddio drwy gydol y DU er mwyn dangos a yw pobl wedi cael y coronafeirws.

Mae Ortho Clinical Diagnostics yn un o nifer o gwmnïau sy'n cynhyrchu'r profion gwrthgyrff ar gyfer y DU ar ôl iddynt ymateb i alwad am weithredu i helpu gyda'r ymateb i'r coronafeirws gan y Prif Weinidog a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Mae Ortho, a leolwyd yng Nghymru ers 40 mlynedd, yn cyflogi mwy na 500 o bobl ar ei safle ym Mhencoed, ac mae'n cynhyrchu miliynau o brofion bob wythnos ar gyfer amrediad eang o gamau clefyd a chyflyrau meddygol i’w dosbarthu'n fyd-eang. 

Gan weithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd Ortho yn darparu ei brofion COVID-19 i gefnogi'r gwaith o brofi am COVID-19 ledled Cymru. Mae'r profion yn gallu canfod gwrthgyrff y gellir eu defnyddio i nodi ymateb imiwnyddol.

Dywedodd Paul Hales, uwch-gyfarwyddwr gweithrediadau yn Ortho: “Rydym wedi meithrin arbenigedd gweithgynhyrchu dwfn yma yng Nghymru dros lawer o flynyddoedd sy'n ein galluogi i gynhyrchu'r cynhyrchion pwysig hyn. Mae'r tîm wedi bod yn gweithio drwy'r dydd a'r nos er mwyn cyrraedd graddfa dorfol ar gyfer cynhyrchu ein profion COVID-19. Yn Ortho, rydym yn credu bod pob prawf yn fywyd, ac rydym yn falch o weld yr offer hwn yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru .”

Ychwanegodd Paul Hackworth, rheolwr gyfarwyddwr Ortho: “Rydym wrth ein boddau i fod yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn chwarae ein rhan yn y strategaeth brofi gyffredinol ar gyfer Cymru.

 “Roeddem yn un o'r cyntaf ymhlith darparwyr profion diagnostic in vitro i ymateb i’r her unigryw hon, ac rydym yn falch y bydd ein profion gwrthgyrff COVID-19 yn darparu datrysiad hyblyg a dibynadwy ar gyfer Llywodraeth Cymru er mwyn cynyddu effeithiolrwydd eu dull i'r eithaf.”

Rwyf wrth fy modd yn gweld cwmni o Bencoed yn cyflawni rôl hanfodol o'r fath yn yr ymdrechion parhaus i frwydro yn erbyn COVID-19.

Gyda'i allu ac arbenigedd profedig ym maes profion clefydau heintus, nodwyd Ortho yn gyflym fel cwmni a allai helpu i arwain y ffordd gyda'r profion hanfodol hyn.

Mae profion gwrthgyrff yn rhan bwysig o'r strategaeth i wrthsefyll lledaeniad y feirws - hoffwn ddiolch i holl staff y cwmni am eu hymroddiad a'u hymdrechion wrth gynhyrchu cynhyrchion hanfodol fel hyn ar yr adeg hon.

Huw David, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y