Posteri plant yn cefnogi ymgyrch sbwriel
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 02 Ebrill 2019
Bydd posteri wedi’u dylunio gan blant ysgol yn arwain ymgyrch i leihau faint o sbwriel sydd ar strydoedd a thraethau Porthcawl yn ystod yr haf eleni.
Mae gwaith celf lliwgar a sloganau creadigol ar y posteri yn annog trigolion ac ymwelwyr i roi eu gwastraff yn y bin, ac fe fydd y posteri’n ymddangos o amgylch y dref cyn bo hir fel rhan o’r ymgyrch ‘Caru Porthcawl a'i chadw'n lân’.
Menter ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cadwch Gymru’n Daclus a Chyngor Tref Porthcawl, ynghyd â Sea Quest, yw hyn, ac mae wedi deffro dychymyg cannoedd o blant. Mae pob un o’r pedair ysgol gynradd ym Mhorthcawl, yn ogystal ag Ysgol St Clare’s, wedi bod yn cymryd rhan yn y prosiect.
Disgybl o Ysgol Gynradd Porthcawl, Lilia oedd yn gyfrifol am y dyluniad buddugol yn gyffredinol, ac mae’n dangos octopws â sawl eitem o sbwriel yn pwyso’n drwm arno a’i slogan ‘Don’t let litter get out of hand’. Bydd dyluniad Lilia yn cael lle amlwg ar hyd glan y môr i atgoffa pawb o effeithiau niweidiol sbwriel ar fywyd môr y byd. Bydd dyluniadau plant eraill yn cael eu harddangos ar y strydoedd o amgylch eu hysgolion.
Yn ystod y mis diwethaf, mae disgyblion o’r pum ysgol wedi bod yn dysgu am effaith negyddol sbwriel ar eu hamgylchedd lleol drwy gymryd rhan mewn sesiynau codi sbwriel ar y traethau ac ar hyd strydoedd gerllaw.
Cyflwynodd y plant eu canfyddiadau mewn digwyddiad arbennig yn Hi-Tide yr wythnos diwethaf. Dywedodd pob un plentyn eu bod wedi cael sioc fawr wrth weld faint o blastig roedden nhw wedi’i ganfod. Maen nhw’n awyddus i weld beth yw’r gwahanol fathau o dueddiadau byddan nhw’n eu gweld o ran sbwriel, pan fyddan nhw’n cymryd rhan mewn rhagor o sesiynau codi sbwriel yn ystod y tymor ymwelwyr.
Mae angerdd a natur benderfynol y plant i lanhau’r dref wedi creu argraff enfawr arnaf. Mae’r plant wedi dweud wrthym ni eu bod yn casáu gweld sbwriel, a’u bod yn teimlo’n drist wrth feddwl am y sbwriel yn niweidio creaduriaid y môr, ac nad oes neb eisiau sathru ar faw ci.
Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae 60 bin arall wedi’u hychwanegu at y rheini sydd o amgylch y dref yn barod, ac mae 40 bin newydd wedi’u gosod yn lle’r hen finiau sydd wedi gweld dyddiau gwell. Does dim esgus o gwbl i daflu sbwriel neu i beidio â chodi baw ci.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae'r ffaith bod hanner poblogaeth Cymru yn cyfaddef eu bod yn taflu sbwriel yn syfrdanol. Mae'n broblem sy'n effeithio ar bob un ohonom, ac yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn gwario oddeutu £1.5m ar godi sbwriel bob blwyddyn. Oni fyddai'n well gan drethdalwyr lleol helpu i atal sbwriel yn y lle cyntaf, a gwario arian ar wasanaethau hanfodol eraill yn lle?
“Rwy’n credu’n gryf mai addysg yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â’r broblem sbwriel, a does dim lle gwell i ddechrau nag mewn ysgolion, lle mae modd i blant ddysgu sut i fod yn gyfrifol â'u sbwriel a gobeithio newid arferion gwael eu teuluoedd hefyd.”
Mae’r fenter wedi cael cefnogaeth y Cynghorydd Norah Clarke, Maer Tref Porthcawl hefyd, a ddywedodd: “Roedd gweld faint o blastig roedd y plant wedi’i gasglu wrth godi sbwriel wedi fy synnu. Yn ddiddorol iawn, ni wnaeth y plant ddod o hyd i lawer o fagiau plastig, sy’n dangos effaith codi ffi am fag plastig. Ond fe wnaethon nhw ddod o hyd i lawer o blastigion untro fel poteli a deunydd pecynnu. Rydym ni’n dref glan y môr, ac mae dyletswydd arnom ni i ofalu am ein strydoedd ac i ofalu am ein morlin hefyd, felly taflwch eich sbwriel mewn modd cyfrifol.”
Dywedodd Anne Davidson, Rheolwr SeaQuest: “Rydym ni’n falch iawn o sut mae’r holl ysgolion lleol wedi cymryd rhan yn y prosiect ‘Caru Porthcawl a’i chadw’n lân’. Mae’r disgyblion wedi gweithio’n galed dros ben yn codi sbwriel, ac mae ôl meddwl ac ymdrech ar eu posteri hefyd. Roedd eu cyflwyniadau terfynol yn arbennig. Rydym ni’n gobeithio y bydd pob un o’r myfyrwyr a oedd yn rhan o’r prosiect yn parhau â’u brwdfrydedd ac yn annog gweddill eu ffrindiau ysgol i gadw Porthcawl yn daclus!"
Bydd pob ysgol sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch yn cael bin arbennig i’w rhoi ar iard yr ysgol, ac fe enillodd Ysgol Gynradd Porthcawl eu set codi sbwriel eu hunain.