Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Posibilrwydd i safle 'anaddas' ar gyfer ysgol fod yn fan agored cyhoeddus swyddogol

Mae posibilrwydd y bydd tir ym Mryn Bracla, nad yw'n addas i'w ddefnyddio fel safle ysgol gynradd newydd, yn gallu cael ei roi i'r gymuned leol.

Heddiw, cynigiodd Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i archwilio a fyddai'n bosib trosglwyddo'r safle 14 acer i Gyngor Cymuned Bracla, a threfnu iddo gael ei wneud yn fan agored cyhoeddus. 

Datgelodd astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr ar y safle y byddai'r costau i ddatblygu ysgol gynradd newydd yn llawer uwch nag y disgwyliwyd yn wreiddiol, oherwydd problemau megis gwaith tir torri-a-llenwi sylweddol sy'n gysylltiedig â thopograffeg y safle, a phroblemau gyda chadarnhau cyffordd posib oddi ar Ffordd Bracla.

Gan fod yr astudiaeth wedi cadarnhau cynydd mewn amser cyfnod adeiladu, anhwylustod tymor hirach i'r gymuned leol a gostyngiad sylweddol ym maint y man agored cyhoeddus sy'n weddill, mae'r Cabinet wedi cytuno i beidio ag ystyried Bryn Bracla fel lleoliad, ac archwilio safleoedd tir llwyd amgen, newydd, sydd bellach ar gael ers i'r prosiect gael ei gyhoeddi am y tro cyntaf.

Rydym yn parhau'n ymrwymedig i ddarparu ysgol gynradd Gymraeg newydd i gymuned Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gymryd lle Ysgol Bro Ogwr, sydd bellach yn dangos ei hoed, ac archwilio sut y gellir defnyddio safle Bro Ogwr i sefydlu ysgol gynradd Saesneg newydd hefyd. Mae nifer o safleoedd tir llwyd amgen ar gael ers datblygu'r prosiect am y tro cyntaf, ac rydym wedi gofyn i swyddogion gychwyn eu harchwilio fel lleoliadau posib.

Mae safle Bryn Bracla wedi bod yn destun ffocws dwys gan y gymuned ers iddo gael ei grybwyll am y tro cyntaf, ond drwy'r broses gyfan, rydym wedi parhau i ddweud y byddai unrhyw benderfyniad terfynol yn dibynnu ar ganlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn cydnabod ein bod ni wedi cadw at ein gair, ac mai dyna yn union sydd wedi digwydd yma heddiw.

Ar ben hynny, gan ystyried teimladau'r gymuned, a sut mae'r astudiaeth ddichonoldeb wedi dangos nad yw'r safle yn addas ar gyfer y datblygiadau a gynigwyd i adeiladu ysgol, byddwn yn cysylltu â Chyngor Cymuned Bracla mewn amser i drafod sut ellir trosglwyddo'r tir iddyn nhw, a'i ddiogelu rhag datblygiadau pellach, drwy ei wneud yn fan agored cyhoeddus swyddogol. Os bydd hyn yn hyfyw, hoffem weithio gyda nhw i archwilio ffyrdd newydd i warchod a gwella Bryn Bracla, gan gynnwys edrych ar yr opsiynau posib sydd ar gael ar gyfer gwella mynediad a chyfleusterau lleol. O ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, nid yw Bryn Bracla yn cael ei ystyried ar gyfer y cynlluniau hyn, ond, mae ein hymrwymiad i ddarparu ysgol gynradd Gymraeg a datblygu ysgol Saesneg ar safle Bro Ogwr yn parhau yr un mor uchelgeisiol ag erioed. Mae swyddogion eisoes wedi archwilio lleoliadau amgen, ac rwy'n edrych ymlaen at weld cynnig newydd yn fuan iawn.

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio

Chwilio A i Y