Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Porthcawl yn dal gafael ar eu tair Baner Las

Daliodd Rest Bay, Bae Treco a Marina Porthcawl eu gafael ar eu Baneri Glas clodfawr sy'n cydnabod safonau uchel o lanweithdra ac ansawdd dŵr.

Mae'r Wobr Baner Las. Gwobr Glan y Môr a Gwobr Arfordir Gwyrdd yn cael eu cynnal yng Nghymru gan elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae'r gwobrau arfordirol yn chwarae rhan allweddol yn amddiffyn ein hamgylchedd morol gwerthfawr ac yn cael eu cydnabod ledled y byd fel symbol o ansawdd.

O gyrchfannau poblogaidd i drysorau cudd, mae'n rhaid i bob traeth sy'n ennill gwobr gwrdd â'r safonau amgylcheddol uchaf a'u cynnal a chyrraedd targedau ansawdd dŵr ymdrochi rhyngwladol anodd.

Mae'r rhaglen Faner Las yn eco-label byd-enwog sy'n eiddo i'r Sefydliad Addysg Amgylcheddol. Gellir gweld manylion llawn holl enillwyr gwobrau Baneri Glas yng Nghymru eleni arwefan Cadwch Gymru'n Daclus

Rydym yn ffodus iawn o gael rhai o’r traethau a’r marinâu gorau dafliad carreg o'n cartrefi, a byddwn yn codi ein tair Baner Las gyda balchder. Pan fydd ymwelwyr yn gweld Baner Las gallant fod yn sir eu bod wedi cyrraedd man o'r safonau amgylcheddol uchaf.

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i helpu cadw ein traethau lleol cyn laned â phosib. Hoffwn atgoffa pawb sy'n cynllunio i drefnu ymweld â'n traethau i gael gwared ar eu sbwriel mewn modd cyfrifol. Gwnewch atgofion yn yr awyr agored, nid llanast - os yw'r biniau'n llawn, ewch â'ch sbwriel adref.

Aelod Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd Neelo Farr

Chwilio A i Y