Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Podiau pyllau nofio wedi’u gosod wrth i ganolfannau hamdden baratoi i ailagor

Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer ailagor campfeydd a phyllau nofio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ddydd Llun 3 Mai.

Bydd preswylwyr yn gallu ailgychwyn eu sesiynau campfa a nofio llinell yn y mwyafrif o gyfleusterau o'r dyddiad hwn, a disgwylir i ymarfer corff grŵp dan do ailddechrau yn ddiweddarach yn y mis. Bydd y pwll nofio yng Nghanolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr yn ailagor ym mis Mehefin.

Bydd ymwelwyr â’r pyllau nofio yn y Pîl ac Ynysawdre yn elwa o offer newydd ar ôl gosod podiau pwll nofio ar gyfer pobl â phroblemau hygyrchedd a symudedd.

Wedi’i ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Sport Wales, mae’r offer yn caniatáu i gadeiriau olwyn newydd sy’n cael eu darparu fel rhan o’r pod i gael eu gostwng i'r pwll er mwyn caniatáu mynediad hawdd, gan wneud nofio yn fwy pleserus.

Mae partner hamdden y cyngor, Halo, wedi cyhoeddi y bydd angen archebu pob gweithgaredd ymlaen llaw pan fydd canolfannau’n ailagor. Mae hwn yn fesur diogelwch parhaus. Gellir archebu trwy’r ap Hamdden Halo neu ar wefan Halo.

Yn y cyfamser, mae Halo yn cynnig dosbarthiadau ymarfer corff byw ar-lein Halo@Home dan arweiniad ei hyfforddwyr, y gallwch eu gwneud yng nghysur eich cartref eich hun saith diwrnod yr wythnos. Mae’r amserlen lawn yn cynnig dosbarthiadau fel ioga pŵer, HIIT, Pilates, tai chi, a legs, bums and tums.

Mae dosbarthiadau ar gael yn rhad am ddim ar ap Halo tra bo canolfannau ar gau oherwydd cyfyngiadau Covid, neu ar wefan Halo. Byddwch angen agor cyfrif Halo ar-lein i gael golwg ar y dosbarthiadau.

Bydd ymwelwyr â’r pyllau nofio yn y Pîl ac Ynysawdre yn elwa o offer newydd ar ôl gosod podiau pwll nofio ar gyfer pobl â phroblemau hygyrchedd a symudedd

Chwilio A i Y