Pod ymwelwyr cartref gofal yn agor
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 19 Mawrth 2021
Wrth i gartrefi gofal baratoi i ailddechrau ymweliadau cyn gynted â phosibl, mae un cyfleuster preswyl a redir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gallu croesawu teuluoedd diolch i bod ymweld dros dro.
Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n gosod 100 uned ar draws y sir i hwyluso ymweliadau’n well yn ystod y misoedd oer.
Nawr bod cyfyngiadau lefel pedwar coronafeirws wedi dechrau llacio, dechreuodd ymweliadau i’r pod yn Nhŷ Cwm Ogwr ym Mhant-yr-awel, Cwm Ogwr, a redir gan y cyngor, yr wythnos hon.
Dyrennir slot awr i berthnasau ac maent yn cael eu profi wrth gyrraedd ac yn derbyn y canlyniadau o fewn 20-30 munud. Os yw’r canlyniad yn negyddol, maent yn mynd i mewn i’r pod ar un ochr, ac mae’r preswylydd cartref gofal ar yr ochr arall gyda phartisiwn sgrin yn y canol. Mae'r pod yn cael ei lanhau yn drylwyr ar ôl pob ymweliad.
Dywedodd Diana Pulla, rheolwr Tŷ Cwm Ogwr: "Rydym wedi cael sawl teulu yn ymweld yn barod ac mae wedi bod yn eithaf emosiynol gyda llawer o ddagrau hapus.
"Gosodwyd y pod cyn y Nadolig ond oherwydd y cyfyngiadau, rydym ond newydd allu dechrau ei ddefnyddio, ac mae wedi codi calonau preswylwyr a staff.
"Mae wedi bod yn boblogaidd iawn gyda llawer o slotiau'n cael eu harchebu ac edrychwn ymlaen at groesawu mwy o deuluoedd yn ôl dros yr wythnosau nesaf."
Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn hynod o anodd ar gyfer pobl yn byw mewn cartrefi gofal a’u hanwyliaid, felly mae’n wych dechau gweld ymwelwyr eto.
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Gwener y gall ymweliadau ailddechrau gydag ymwelwyr dynodedig sengl, mae staff mewn cartrefi gofal preswyl sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor yn cynnal gwiriadau ac yn cynnal asesiadau risg i ganiatáu i hynny ddigwydd cyn gynted â phosibl.
Bydd angen i bob cartref gofal unigol bennu a yw’n ddiogel ai peidio i ganiatau i ymweliadau ailddechrau, ac mae'r cyngor yn rhannu'r canllawiau wedi'u diweddaru gyda darparwyr cartrefi gofal eraill a gomisiynwyd. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau y gall cyswllt â pherthnasau a ffrindiau ailddechrau mewn modd mor ddiogel â phosibl.
Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Cynghorydd Nicole Burnett
Cynghorir preswylwyr i gysylltu â'r cartref perthnasol i gael gwybod pa drefniadau sydd ar waith cyn ymweld.