Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pobl leol yn cael eu hannog i faethu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn apelio at bobl y mae eu plant wedi ‘gadael y nyth’ i ystyried dod yn ofalwyr maeth.

Adeg hon o’r flwyddyn, pan fydd plant hŷn yn cychwyn bywyd newydd o annibyniaeth yn y brifysgol, mae llawer o rieni’n profi teimladau o unigrwydd a elwir yn ‘syndrom gadael y nyth’.

Yn ôl yr ymchwil, gall y teimladau hyn wneud i rai pobl deimlo’n isel ac fel pe baent wedi colli eu bwriad. Yn lle canolbwyntio ar y teimladau negyddol hyn, rydyn ni am i rieni feddwl am eu dyheadau yn y tymor hwy a rhoi gwybod iddyn nhw pa mor werthfawr y gallent fod i blentyn maeth.

Wrth iddynt ddechrau’r cam newydd hwn yn eu bywyd, pan fydd eu plant yn gadael cartref, byddant mewn sefyllfa berffaith i groesawu plentyn newydd. Yn ogystal â gofalu am eu plentyn eu hunain, maen nhw wedi magu digon o brofiad a gofal, sy’n eu gwneud yn amhrisiadwy i blentyn mewn angen.

Mae cynnig cartref i blentyn yn beth anhunanol i’w wneud, mewn sawl ffordd, ond gall fod yn hynod o foddhaus i rieni unwaith y bydd eu plant wedi gadael y nyth.

Mae maethu yn rôl â thâl sy’n croesawu pobl o bobl cefndir, ond bydd gan y rheini sydd wedi magu eu plant eu hunain y profiad a’r sgiliau bywyd sydd eu hangen yn barod.

Er bod rhai rhieni’n falch o’u rhyddid pan fydd eu plant yn gadael cartref, mae llawer yn ei chael hi’n anodd addasu i gartref heb blant. Dyma pam ein bod yn annog pobl sydd eisoes yn meddu ar y sgiliau magu plant gwerthfawr hyn i ystyried maethu. Gallwch wneud gwahaniaeth mawr i blant agored i niwed.”

Phillip White, Aelod Cabinet y cyngor ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Mae Michelle a Wayne wedi bod gyda’i gilydd ers 11 o flynyddoedd ac maen nhw newydd ddod yn ofalwyr maeth gyda Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Michelle: “Doedd gen i ddim llawer o amser na lle pan oedd y plant yn ifanc i ddechrau maethu.  Fodd bynnag, pan adawodd fy mhlant gartref, sylwais fod ein tŷ wedi mynd o fod yn gartref teulu prysur iawn i fod yn dawel iawn.

“Roedd gennym ni’r holl le yma a neb i’w rannu.  Roeddwn i’n gwybod mai nawr oedd yr amser i ystyried cynnig cartref cariadus i blentyn maeth.”

Gallwch ddarllen stori lawn Michelle a Wayne yma: www.bridgendfostercare.wales

Bydd pobl sy’n maethu gyda ni yn cael cynnig hyfforddiant llawn, lwfans ariannol, llawer o gymorth a mynediad at ofalwyr maeth eraill, yn cynnwys grwpiau cymorth.

Os ydych chi’n teimlo y gallai eich nyth wag chi fod yn gartref cariadus i blant, ewch i www.bridgendfostercare.wales i ddysgu mwy neu cysylltwch â’r tîm maethu ar (01656) 642674.

Chwilio A i Y