Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pobl ifanc 16 - 17 oed yn paratoi i bleidleisio am y tro cyntaf

Mae mwy na hanner yr holl bobl ifanc 16-17 oed ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cofrestru i bleidleisio am y tro cyntaf yn yr etholiadau’r Senedd sydd ar y gweill.

Bydd oddeutu 1,600 o bobl ifanc cymwys yn cymryd rhan ar ôl i 51.5 y cant o bobl ifanc 16-17 oed gofrestru cyn y dyddiad cau diweddar ar gyfer yr etholiad.

Mae hyn yn sgil dilyn deddfwriaeth a basiwyd gan Senedd Cymru yn 2019 i alluogi mwy na 70,000 o bobl ifanc cymwys yn eu harddegau ledled Cymru i bleidleisio yn etholiadau Senedd yn y dyfodol.

Ar y cyfan, mae 112,257 o drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cofrestru i bleidleisio - 65,874 yn etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr, a 46,383 yn etholaeth Dyffryn Ogwr.

Bydd etholiadau ar gyfer y Senedd a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal ddydd Iau 6 Mai ynghyd ag isetholiad lleol ar gyfer ward Nantymoel.

Bydd pleidleisiau a fwriwyd yn isetholiad Nantymoel yn cael eu cyfrif a'u cyhoeddi yr un noson. 

Bydd y gwaith cyfrif ar gyfer etholiad y Senedd yn digwydd ddydd Gwener 7 Mai, a bydd gwaith cyfrif Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cael ei gynnal ddydd Sul 8 Mai.

Cyn gynted ag y byddant wedi'u cadarnhau, bydd y canlyniadau'n cael eu huwchlwytho i wefan etholiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

I gael mwy o wybodaeth am sut allwch chi bleidleisio, ewch i Gov.UK 

 

Chwilio A i Y