Pleidleiswyr yn cael eu hannog i gofrestru i ddweud eu dweud ym mis Mai
Poster information
Posted on: Dydd Iau 17 Mawrth 2022
Ar ddydd Iau 5 Mai 2022, bydd pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael dweud eu dweud am bwy fydd yn eu cynrychioli ar eu cyngor lleol.
Er mwyn gallu pleidleisio ym mis Mai, mae'n rhaid i drigolion fod ar y rhestr etholiadol. Gyda'r dyddiad cau i gofrestru yn agosáu'n gyflym, mae'r cyngor yn annog pobl sydd heb gofrestru yn eu cyfeiriad presennol i sicrhau eu bod yn cofrestru mewn pryd.
Y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer pleidleisio yw hanner nos ddydd Iau 14 Ebrill, ac mae'n cymryd pum munud yn unig i wneud hynny ar-lein drwy ymweld â gwefan Cofrestru i Bleidleisio.
Eleni, bydd trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn pleidleisio i ddewis cynghorwyr sy'n cynrychioli eu hardal leol ac yn cyfrannu at ddatblygu polisïau mewn meysydd megis trafnidiaeth, gofal cymdeithasol a thai.
Ni chewch ddweud eich dweud yn yr etholiadau hyn oni bai eich bod wedi cofrestru i bleidleisio. Mae cofrestru'n hawdd ac mae'n cymryd pum munud yn unig.
Os ydych newydd droi'n 16 neu wedi symud tŷ, mae'n arbennig o bwysig sicrhau eich bod wedi cofrestru'n gywir i bleidleisio.
Os oeddech wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad y llynedd a’ch manylion yn parhau’n gywir, does dim angen ichi wneud dim. Os nad ydych yn siŵr cysylltwch â'ch awdurdod lleol ar 01656 643116 neu e-bostiwch electoral@bridgend.gov.uk.
Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru
Gall pobl ddewis pleidleisio mewn nifer o ffyrdd - yn bersonol, drwy'r post neu drwy apwyntio rhywun maen nhw'n ymddiried ynddynt i bleidleisio yn eu lle, sef pleidlais ddirprwy.
Dyddiad cau i ymgeisio am bleidlais bost ydi 5pm dydd Iau 19 Ebrill, a'r dyddiad cau ar gyfer pleidlais ddirprwy yw 5pm ddydd Mawrth 26 Ebrill.
Am wybodaeth ar etholiadau yn eich ardal, sut i gofrestru i bleidleisio, sut i ymgeisio am bleidlais bost neu bleidlais ddirprwy, gall pleidleiswyr ymweld â'r wefan Comisiwn Etholiadol, a fydd yn parhau i gael ei diweddaru cyn yr etholiad.