Accessibility links

1
Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Plant ysgol yn dysgu am gynllun dŵr pwll glo Caerau

Mae plant o ysgolion Cwm Llynfi wedi bod yn dysgu am gynllun cyffrous dŵr pwll glo Caerau a fydd yn defnyddio’r gwres o dan eu traed i gynhesu 150 o gartrefi.

Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr £6.5 miliwn o gronfeydd yr UE i ddatblygu’r prosiect arloesol sy’n defnyddio’r dŵr sydd wedi llenwi hen bwll glo Caerau fel ffynhonnell o ynni geothermol.

Mae’r dŵr wedi ei gynhesu’n naturiol gan graidd y Ddaear ac felly mae ei dymheredd yn 20 gradd Celsius ar gyfartaledd. Y bwriad yw pwmpio’r dŵr i gyfnewidydd gwres ar yr wyneb a fydd yn tynnu’r gwres allan o ddŵr y pwll glo.

Wedyn bydd y gwres yn cael ei gludo drwy rwydwaith o bibellau i gartrefi pobl, gan fynd drwy bwmp gwres i gynhesu’r cartrefi drwy ddefnyddio’u systemau rheiddiadur presennol. Ni fydd dŵr y pwll glo yn mynd i mewn i gartrefi pobl ar unrhyw adeg.

I ddechrau, bydd cant a hanner o gartrefi yn cael eu cysylltu â’r cynllun, ac mae’n bosib y bydd cannoedd mwy yn ymuno â’r rhwydwaith yn y dyfodol.

Yn ystod y mis diwethaf, cynhaliwyd gweithdai gydag oddeutu 200 o ddisgyblion o chwe ysgol gynradd – Caerau, Nantyffyllon, Plasnewydd, Cwmfelin, Garth a Llangynwyd – er mwyn iddyn nhw ddysgu am y cynllun arloesol hwn sy’n digwydd ar eu stepen drws.

Rydym ni’n awyddus i ymgysylltu â chymaint o bobl leol â phosibl ynghylch y prosiect anhygoel hwn, felly roeddem ni’n meddwl y byddai’n ddiddorol iawn i blant ysgol ddysgu am y wyddoniaeth, y dechnoleg, y beirianneg a’r fathemateg sydd y tu ôl i’r cynllun a dysgu am bwysigrwydd dod o hyd i ffynonellau amgen o ynni heblaw tanwydd ffosil.

Yr hydref diwethaf, cawsom wobr o £2,500 gan Wobrau Effaith Ynni, a drefnwyd gan yr elusen tlodi tanwydd flaenllaw Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) mewn partneriaeth â Nwy Prydain, i gydnabod potensial prosiect dŵr pwll glo Caerau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.

Felly, fe benderfynom ni wario’r arian hwnnw ar lawlyfrau i’r disgyblion gael eu defnyddio nhw yn y gweithdai ac yna mynd â nhw gartref i drafod y cynllun â’u teuluoedd hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau:

Mae’r gweithdai hefyd wedi rhoi cyfle i’r disgyblion ddysgu mwy am orffennol glofaol y cwm. Gan mlynedd yn ôl roedd ychydig dros 6,000 o ddynion yn gweithio ym mhyllau glo Cwm Llynfi, yng Nghaerau, Bryn Navigation, Garth, Coegnant, Oakwood, Maesteg a St John’s. Yn amlwg mae hyn yn rhywbeth anhygoel i blant heddiw geisio’i amgyffred.

“Mae’n rhyfeddol meddwl bod yr hen weithfeydd glo a chwaraeodd ran mor bwysig yn hanes y cwm yn awr yn cael eu defnyddio i ddarparu gwres diogel, parhaol, effeithlon a chost effeithiol i’r gymuned leol.”

Prosiect dŵr pwll glo Caerau fydd y cynllun ynni dŵr pwll glo ar raddfa fawr cyntaf erioed i gael ei ddatblygu yn y DU.

Yr Iseldiroedd yw’r arweinwyr byd-eang o ran defnyddio’r dechnoleg hon ar hyn o bryd. Agorwyd gorsaf bŵer dŵr pwll glo gyntaf y byd yn 2008 yn nhref Heerlen - yng nghalon ardal mwyngloddio’r Iseldiroedd lle caewyd y pwll glo olaf yn y 1970au.

Esbonio prosiect dŵr pwll glo Caerau.

Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Ffôn: 01656 643643
Oriau agor:

09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.

Chwilio A i Y