Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Plant yn cuddio cerrig bach i helpu i gefnogi’r Wythnos Diogelu Cenedlaethol

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymuno â sefydliadau eraill ar hyd a lled Cymru rhwng 11 a 15 Tachwedd, i nodi Wythnos Diogelu Cenedlaethol 2019.

Bydd y cyngor, law yn llaw â’i bartneriaid, yn codi ymwybyddiaeth o’r gwahanol fathau o gam-drin – gan gynnwys cam-drin corfforol, seicolegol, rhywiol, emosiynol ac ariannol – a sut gall pobl gael gafael ar help a chefnogaeth.

I ddangos sut gall pawb adnabod arwyddion o gam-drin, ac i helpu i hybu diogelu, bydd plant ysgol lleol yn gosod cerrig bach wedi’u peintio mewn parciau a mannau cyhoeddus ym mhob cwr o’r fwrdeistref sirol.

Bydd lluniau trawiadol ar un ochr i’r cerrig, a’r hashnod #diogeluCymru (#safeguardingwales) ar yr ochr arall. Rydym yn annog yr aelodau o’r cyhoedd a fydd yn dod o hyd i’r cerrig hyn i rannu lluniau ohonyn nhw ar gyfryngau cymdeithasol, ac i dagio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y neges.

Yn ystod yr Wythnos Diogelu Cenedlaethol, bydd gan bob math o sefydliadau gwahanol stondinau gwybodaeth yn y lleoliadau canlynol:

  • Dydd Llun 11 Tachwedd – Barnardos: Y Swyddfeydd Dinesig, 10am-2pm
  • Dydd Mawrth 12 Tachwedd – y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol: Y Swyddfeydd Dinesig, 2pm-4pm
  • Dydd Mercher 13 Tachwedd – Gwasanaeth Lles Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr: Y Swyddfeydd Dinesig, 10am-2pm
  • Dydd Iau 14 Tachwedd – y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol: Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau, Maesteg, 10am-12pm
  • Dydd Gwener 15 Tachwedd – Teleofal: Y Swyddfeydd Dinesig, 10am-12pm, a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol: Ysbyty Tywysoges Cymru, 10am-12pm

Hefyd, bydd sesiynau penodol i godi ymwybyddiaeth yn cael eu cynnal ar gyfer gweithwyr proffesiynol a fyddai’n hoffi cael gwybod mwy am faterion diogelu.

Bydd y sesiynau’n cynnwys manylion am yr ap ‘Bright Sky’, sydd wedi cael ei ddylunio er mwyn cynnig cefnogaeth a gwybodaeth i unrhyw un sy’n cael profiad uniongyrchol o gam-drin domestig, cam-drin rhywiol, stelcio neu aflonyddu, neu sy’n adnabod rhywun sy’n dioddef yn sgil hynny.

Hefyd, bydd Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cael eu lansio yn ystod yr Wythnos Diogelu Cenedlaethol, a fydd yn rhoi arweiniad i ymarferwyr yng Nghymru sy’n gweithio i ddiogelu plant ac oedolion sy’n cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu eu niweidio mewn ffordd arall, neu sydd mewn perygl o hynny.

Mae diogelu yn bwysig i bawb, ac mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae i helpu i gadw pobl eraill yn ddiogel.

Mae’n hollbwysig bod pawb yn fwy ymwybodol o’r gwahanol fathau o niwed, cam-drin ac esgeulustod, ac yn deall sut i adnabod peryglon ac arwyddion o hynny mewn pobl eraill.

Bydd cydweithio fel rhan o Hwb Diogelu Aml-Asiantaeth Pen-y-bont ar Ogwr, gan helpu pobl leol i fyw bywydau mwy diogel, yn flaenoriaeth allweddol i’r cyngor a’i bartneriaid bob amser.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor
Plant Ysgol Heronsbridge yn cuddio cerrig bach mewn mannau cyhoeddus a pharciau lleol i godi ymwybyddiaeth o’r Wythnos Diogelu Cenedlaethol.

Chwilio A i Y