Plant i elwa ar fynediad at wersi ac offerynnau cerdd am ddim
Poster information
Posted on: Dydd Iau 19 Mai 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu lansiad Cynllun Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Gerddoriaeth a’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol a fydd yn sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn y fwrdeistref sirol yn colli’r cyfle i fanteisio ar weithgareddau a gwersi cerdd oherwydd eu sefyllfa ariannol.
Mae'r weledigaeth, blaenoriaethau a'r rhaglenni gwaith yn gyffrous, a byddant yn ddechrau ar ailfywiogi addysg gerddoriaeth yng Nghymru, gan ategu gwaith rhagorol presennol Gwasanaeth Cerdd Pen-y-bont ar Ogwr.
Gyda chymorth Gwasanaeth Cerdd Pen-y-bont ar Ogwr, bydd y rhaglenni hyn yn cael eu cyflwyno i blant mewn ysgolion a lleoliadau eraill o fis Medi 2022 ymlaen.
Bydd pobl ifanc rhwng tair oed ac un ar bymtheg oed yn cael y cyfle i ddysgu sut i chwarae offeryn, yn ogystal â chanu a chreu cerddoriaeth yn ein hysgolion a chymunedau.
Bydd y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn gweithredu fel ‘hwb’, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cydlynu rhaglenni’r Gwasanaeth Cerdd gydag ystod o sefydliadau.
Bydd hyn hefyd yn helpu ysgolion a lleoliadau i gyflwyno Cwricwlwm Cymru a chynnig cyfleoedd mwy amrywiol i blant a phobl ifanc brofi cerdd y tu allan i ysgolion a lleoliadau.
Mae’n hanfodol bod pob plentyn yn cael mynediad am ddim at offerynnau cerdd gan eu bod yn gallu helpu i fagu hyder plentyn yn ogystal â chwarae rhan wrth eu helpu i lunio eu personoliaethau. Bydd y fenter hefyd yn helpu i ddiogelu harddwch y celfyddydau a, gobeithio, y byddwn yn gweld nifer o bobl ifanc yn syrthio mewn cariad gyda cherddoriaeth wrth roi cynnig ar wahanol offerynnau.
y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg