Planhigion ymledol yn cael eu tynnu o dwyni Merthyr Mawr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 03 Mawrth 2021
Mae gwaith ar y gweill i gael gwared ar rywogaeth o blanhigion ymledol yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr er mwyn diogelu’r twyni.
Mae dau gloddiwr ar y safle i helpu i glirio’r helygen môr anfrodorol, a reolwyd o’r blaen gyda chymorth gwirfoddolwyr ond sydd bellach wedi lledaenu’n eang.
Mae’r gwaith wedi’i gomisiynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy’r prosiect Dunes 2 Dunes, sy’n anelu at warchod a gwella tirweddau twyni tywod yng Nghynffig a Merthyr Mawr Warren.
Er nad yw’r cyngor bellach yn rheoli'r safle yn ei gyfanrwydd, rydym yn parhau i fod yn rhan o’r prosiect Dunes 2 Dunes a bydd y gwaith hanfodol hwn yn helpu i adfer y cynefin naturiol ar y twyni ac yn caniatáu i flodau gwyllt ddychwelyd yn yr haf, gan wella amodau ar gyfer cacwn, peillwyr ac adar eraill.
Yn yr 1840au, plannwyd helygen y môr yn y twyni, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig Cynffig, i atal symudiad tywod ond mae’r rhywogaeth anfrodorol wedi ymsefydlu’n gyflym, gan effeithio ar natur ddeinamig o dyfiant ac erydiad twyni tywod.
Aseswyd yr ardal ar gyfer adar sy’n nythu cyn i’r gwaith ddechrau ac rydym wedi gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a’r tirfeddianwyr, Ystâd Merthyr Mawr, i sicrhau’r caniatâd angenrheidiol. Disgwylir i’r gwaith symud gael ei orffen erbyn y penwythnos.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio