Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pennod newydd yn hanes Ysgol Gynradd Betws yn cynnig cyfleoedd cyffrous

Gall disgyblion Ysgol Gynradd Betws ddisgwyl digon o gyffro a heriau newydd pan fyddant yn dychwelyd i’r ystafelloedd dosbarth yr wythnos hon ar gyfer y tymor haf cyntaf yn eu hysgol newydd sbon a gostiodd miliynau.

Agorodd yr ysgol newydd, sydd o’r radd flaenaf, ei drysau ym mis Ionawr, a nawr bod y plant wedi hen ymgartrefu gallant edrych ymlaen at ystod eang o gyfleoedd gwell o lawer wrth i’r athrawon geisio gwneud y mwyaf o’r amgylchedd newydd.

Dywedodd Pennaeth yr ysgol, Liz Pearce: “Mae’n gyffrous edrych ymlaen at fanteisio ar yr hyn mae’r man awyr agored newydd gwych yn ei gynnig. Bydd ar ei orau pan fydd y tywydd yn cynhesu!

“Gwyddom fod yn rhaid inni wneud mwy o ddefnydd o’r awyr agored i helpu datblygu sgiliau dysgu annibynnol, ac mae’r cyfoeth o gyfleoedd y mae ein hysgol newydd yn eu cynnig yn tanio’n brwdfrydedd gan y bydd y cyfleoedd hyn yn creu amgylchedd delfrydol a fydd yn galluogi’n disgyblion i lwyr wireddu eu potensial?

“Mae’r holl gyfleusterau yn llawer gwell nag yn yr hen adeilad, felly mae hi wir yn teimlo fel pennod newydd i ni. Yn ogystal â’r gwelliannau i’r mannau y tu allan, mae popeth ar gael yn yr adeilad ei hun i ateb anghenion addysg fodern.”

Mae Ysgol Gynradd Betws yn un o bump o adeiladau newydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a godwyd yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac roedd hyn yn bosibl diolch i raglen moderneiddio ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gafodd ei chefnogi gan filiynau o bunnau o gronfa Llywodraeth Cymru.

Rydym yn falch iawn o Ysgol Gynradd Betws ar ei newydd wedd ac fe gafodd ei chynllunio gan ein tîm Amgylchedd Adeiledig mewnol ac fe gafodd ei hadeiladu gan Andrew Scott Ltd.

Mae hi’n ysgol eithriadol ac yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Yn ddiweddarach y mis hwn bydd yn cystadlu yn erbyn prosiectau eraill ledled de Cymru yng nghategori ‘Yr Adeilad Addysg Gorau’ yn y gystadleuaeth ar gyfer y Gwobrau Rhagoriaeth yr LABC ac rwy’n ffyddiog ei bod yn gystadleuwr clodwiw.

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywiad

Aeth y cynghorydd Smith ymlaen i ddweud: “Pryd bynnag mae hen ysgol yn cael ei disodli gan un newydd sbon ceir potensial enfawr i ddatblygu cyfleoedd newydd cyffrous.

“Fe wnaeth y cyfleusterau argraff fawr arnaf pan ymwelais â’r ysgol cyn y Pasg ac roedd yn braf gweld bod pawb wedi ymgartrefu’n dda. Mae’r ysgol yn teimlo’n agored braf gyda llawer o leoedd ble gall disgyblion ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, gan gynnwys mannau darllen cysurus.

“Ac wrth gwrs, o ran y datblygiad hwn ym Metws, rydym yn adeiladau, nid yn unig un ond dwy ysgol. Ar ôl i ddisgyblion Ysgol Gynradd Betws symud i’w hysgol newydd, fe ddymchwelwyd eu hen ysgol y drws nesaf i wneud lle i adeilad newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw sy’n symud o Bontycymer cyfagos.

“Mae’r gwaith ar yr ysgol newydd yn dod ymlaen yn dda a bydd yn agor ym mis Ionawr 2019. Gan y bydd y ddwy ysgol newydd hyn yn agos i Goleg Cymunedol Y Dderwen – sydd ei hun yn iau na phump oed – rydym yn creu etifeddiaeth gyfoethog a pharhaol ar gyfer Cwm Ogwr a Chwm Garw.”

Chwilio A i Y