Pennaeth o Bencoed yn ymuno â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 18 Ebrill 2019
Mae pennaeth o Bencoed wedi’i dewis i fod yn un o gymdeithion yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.
Mae Suzanne Sarjeant o Ysgol Gynradd Pencoed, yn un o 12 o gymdeithion newydd o bob rhan o Gymru sydd wedi’u penodi i’r rôl bwysig hon, ac a fydd yn gweithio â’r Academi yn ystod y blynyddoedd nesaf i helpu â rhaglen weithgaredd yr Academi.
Nod yr Academi yw gweithio â phartneriaid ym mhob rhan o’r system i ddarparu cymorth strategol i rai sydd eisoes yn llenwi rolau fel arweinyddion, yn ogystal ag annog ac ysbrydoli’r rhai hynny a hoffai ddilyn gyrfa fel arweinyddion mewn addysg.
Daw penodiad y garfan newydd o gymdeithion yn fuan ar ôl cyhoeddi adroddiad comisiwn cyntaf yr Academi, a oedd yn edrych ar y ffordd orau o feithrin ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinyddion addysgol. Roedd ‘Ysbrydoli Arweinwyr – Cyfoethogi Bywydau: ein Galwad i Weithredu’ yn gwneud cyfres o argymhellion sydd ar hyn o bryd yn cael eu trafod yn fanwl gan ymarferwyr addysg.
Wrth gyfeirio at ei phenodiad, meddai Suzanne Sarjeant,
Rwyf wedi bod yn gweithio yn y byd addysg ers 26 o flynyddoedd ac yn ystod y cyfnod hwn rwyf wedi ymroi i ddatblygu arweinyddiaeth system a phartneriaethau cydweithredol. Rwyf yn falch dros ben o’r gwahoddiad i ymuno â’r academi ac rwyf yn edrych ymlaen at weithio â fy nghydweithwyr o bob cwr o Gymru i helpu i wella’r system addysg i bawb sy’n gysylltiedig â hi.”
Suzanne Sarjeant
Cafodd y cymdeithion newydd eu penodi’n ffurfiol mewn cinio yng Ngwesty’r Marriott yng Nghaerdydd lle’r oedd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, yn eu croesawu i’w rôl newydd. Meddai,
“Mae’n bleser croesawu’r ail garfan o Gymdeithion yr Academi i’w rolau. Rwyf yn siŵr y byddant i gyd yn elwa llawer ar y profiad ac, fel Cymdeithion, bydd eu heffaith i’w gweld ym mhob rhan o’n system addysg.”
Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, ychwanegodd prif weithredwr yr Academi Arweinyddiaeth, Huw Foster Evans,
“Rydym wrth ein bodd bod yr arweinyddion galluog hyn yn ymuno â ni ac am ein helpu i ddatblygu ein gwaith ymhellach. Mae’r tîm hefyd yn edrych ymlaen at ein sioeau teithiol a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru wrth i ni geisio datblygu system sy’n sicrhau bod ymarferwyr o bob cwr o Gymru’n gallu ymgysylltu â’r dysgu proffesiynol mwyaf perthnasol, ystyrlon ac ysbrydoledig.”
Am ragor o wybodaeth ewch i Gwefan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol