Pen-y-bont ar Ogwr yn un o'r ddwy fwrdeistref sirol orau yng Nghymru am ailgylchu
Poster information
Posted on: Dydd Llun 19 Rhagfyr 2022
Eleni, mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i rhestru yn y ddwy ardal awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru am ailgylchu.
Mae cyfradd ailgylchu'r fwrdeistref sirol wedi cynyddu i 72.6 y cant, sydd dri y cant yn uwch na'r flwyddyn flaenorol – ystadegyn sydd hefyd wedi rhagori ar dargedau ailgylchu Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol, sef 64 y cant ar hyn o bryd.
Yn 2024-25, bydd y targed statudol yn cael ei godi i 70 y cant – targed y mae’r fwrdeistref sirol eisoes wedi'i gyrraedd, dair blynedd yn gynnar. Mae rhwydwaith eang o staff sy'n cefnogi'r rhaglen ailgylchu a gwastraff yn y fwrdeistref sirol, sydd hyd yn oed yn cynnwys swyddogion Addysg, sydd ar gael i gynorthwyo unrhyw un sydd angen help wrth ailgylchu.
Yn ystod y flwyddyn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi llwyddo i ailgylchu swm sylweddol o ystod o wastraff, gan gynnwys 8931 tunnell wedi'i ailgylchu mewn Canolfannau Ailgylchu Cymunedol, 8342 tunnell o wastraff bwyd, yn ogystal â 40 y cant o sbwriel oddi ar y stryd.
Am newyddion gwych! Mae cael ein henwi fel yr ail orau yng Nghymru am ailgychu’n llwyddiant aruthrol.
Hoffwn ddiolch i chi - preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - yn enwedig, am eich holl ymdrechion i ailgylchu. Mae cydweithio fel hyn yn gwneud y fwrdeistref sirol yn well lle.
Mae hefyd yn bwysig nodi a chydnabod gwaith caled y criwiau casglu, gweithwyr canolfannau gwastraff ac ailgylchu, yn ogystal â'r staff y tu ôl i'r llenni, y mae pob un ohonynt yn cyfrannu at y cyflawniad arbennig hwn hefyd.
Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick