Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu un o enwogion rygbi Cymru

Bydd un o fawrion rygbi Cymru, Ieuan Evans MBE, yn westai arbennig ym mrecwast busnes Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cael ei gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn rhoi llais i fusnesau lleol o bob maint ac o bob sector ledled y fwrdeistref sirol.

Bydd y brecwast busnes poblogaidd yn dychwelyd i Westy Coed-y-Mwstwr yn Llangrallog ar 28 Chwefror, a bydd yn gyfle gwych i fusnesau lleol rwydweithio, croesawu cleientiaid a chydweithwyr, a dathlu Dydd Gŵyl Dewi mewn modd cwbl Gymreig.

Bydd Ieuan Evans, un o chwaraewyr rygbi mwyaf nodedig Cymru, sydd hefyd yn golofnydd yn y Sunday Telegraph ac yn sylwebydd ar Sky Sports, yn trafod rhai o ddigwyddiadau mwyaf cofiadwy yn ei yrfa rygbi, gan gynnwys ei brofiad o fod yn gapten tîm Cymru a thorri’r record am y nifer mwyaf o gapiau fel capten Cymru.

Yn ogystal â thrafod rhai o’i lwyddiannau mwyaf, gan gynnwys cael MBE am ei wasanaethau i fyd rygbi, mae Ieuan yn dal yn siaradwr gwadd poblogaidd yn y sectorau busnes a chwaraeon – lle mae’n rhannu ei wybodaeth a’i farn uchel eu parch ac yn cyfleu negeseuon sy’n ymwneud â gwaith tîm, llwyddiant a chymell pobl.

Mae’r brecwast Dydd Gŵyl Dewi blynyddol bob amser yn fore gwych ac mae’n ddigwyddiad rhy dda i’w golli. Mae’n gyfle gwirioneddol wych i weithwyr busnes proffesiynol o’r ardal leol ddod gyda’i gilydd i rwydweithio ac i ymgysylltu â phobl o’r un anian â nhw, gan ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar yr un pryd.

Dywedodd Jay Ball, Is-gadeirydd Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr

Mae gan Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr dros 950 o aelodau ar hyn o bryd, ac mae’n rhoi’r cyfle i fusnesau lleol rwydweithio ac ehangu eu cysylltiadau drwy gynnal ystod lawn o ddigwyddiadau addysgol a dylanwadol drwy gydol y flwyddyn.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn £23+TAW yr un, ac mae’n rhaid archebu ymlaen llaw. Gofynnir i chi gyrraedd erbyn 8am. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 8:30 ac yn gorffen am 10am. Anfonwch e-bost at business@bridgend.gov.uk i archebu eich lle.

Mae cyfleoedd noddi ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Mary Pope ar (01656) 815320 mary.pope@bridgend.gov.uk.

I gael yr wybodaeth a’r newyddion diweddaraf am y digwyddiad, ewch i wefan Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, dilynwch @BridgendForum ar Twitter, neu hoffwch ‘Bridgend Business Forum’ ar Facebook.

Chwilio A i Y