Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei henwi'n fan poblogaidd ar gyfer gwerthu eiddo
Poster information
Posted on: Dydd Llun 30 Tachwedd 2020
Gyda threfi prysur, cysylltiadau cymudo ardderchog, a thraethau a chymoedd hardd, mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i henwi'n un o'r lleoedd yn y DU lle mae eiddo'n cael eu prynu gyflymaf.
Mae dadansoddiad gan Zoopla wedi dangos bod cynigion ar eiddo sy'n cael eu rhoi ar y farchnad yn y dref yn cael eu derbyn o fewn 24 diwrnod ar gyfartaledd. Mae tai lled-wahanedig tair ystafell wely a'r rhai a brisiwyd rhwng £100,000 a £150,000 yn gwerthu gyflymaf.
Roedd Pen-y-bont ar Ogwr, sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i gymudwyr rhwng Abertawe a Chaerdydd ar y brif reilffordd a'r M4, gyda Maes Awyr Caerdydd gerllaw hefyd, yn yr ail safle ar y cyd â Waltham Forest yn Llundain. Falkirk yn yr Alban oedd ar frig y rhestr.
Mae'r dref hefyd wedi cael ei henwi'n bumed hapusaf yng Nghymru gan Rightmove. Gofynnodd mynegai 'Happy at Home' y wefan i breswylwyr raddio lle maent yn byw yn seiliedig ar 10 mesur, gan gynnwys ymdeimlad o ysbryd cymunedol, ymdeimlad o berthyn, pobl gyfeillgar a chwrtais, chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol, gwasanaethau ac amwynderau lleol, natur a mannau gwyrdd.
Dywedodd Huw David, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: "Gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog, mae Pen-y-bont ar Ogwr yn fan ddelfrydol i weithwyr a busnesau, tra gall pobl sy'n ymweld am y dydd a thwristiaid gael mynediad at barciau hardd a thraethau trawiadol.
"Yn ddiweddar rydym wedi croesawu bwytai a bariau newydd i Ben-y-bont ar Ogwr a gall trigolion gymryd rhan yn ein dathliadau Nadolig rhithwir gyda'n apiau canol tref.
"Nid yw'n syndod i mi fod yr ardal wedi dod yn fan mor boblogaidd ar gyfer gwerthu eiddo ac mae ein trigolion yn hapus gan ei bod yn lle ardderchog i fyw, gweithio, ymweld, mwynhau a gwneud busnes."