Peidiwch ag oedi - ymgeisiwch nawr am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 03 Mawrth 2021
Atgoffir dinasyddion yr UE sy'n byw ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wneud cais ar gyfer Cynllun Preswylio'n Sefydlog yr UE er mwyn parhau i fyw a gweithio yn y DU.
Mae’r cynllun, sy’n rhan o system fewnfudo newydd y DU ar ôl Brexit, yn cynnig yr hawl i ddinasyddion y 27 o wladwriaethau sy’n aelodau o’r UE, yn ogystal â’r Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein, i ddal i fyw a gweithio yn y DU fel y gwnaethant pan oedd y wlad yn rhan o’r UE.
Mae gwneud cais yn rhad ac am ddim i bawb ond rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiad cau, 30 Mehefin 2021.
Hyd yn hyn, mae 2,000 o geisiadau ar gyfer y Cynllun Preswylio'n Sefydlog wedi cael eu cwblhau ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. O’r rheini, mae 1,370 wedi cael statws sefydlog a 570 wedi cael statws cyn-sefydlog, yn dibynnu ar ba mor hir maent wedi byw yma.
Os ydych yn ddinesydd o'r UE sydd wedi gwneud eich cartref yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn cyfrannu at fywyd y fwrdeistref sirol, rydym am i chi a’ch teulu allu parhau i fyw, gweithio a chael mynediad at wasanaethau yma. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i chi sicrhau eich bod yn gwneud cais am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin 2021.
Mae bron i 2,000 o geisiadau bellach wedi’u cwblhau, gan alluogi preswylwyr sy’n dod yn wreiddiol o wledydd gan gynnwys Lithwania, yr Almaen, Portiwgal a Gwlad Pwyl i aros yma fel rhan o’n cymunedau.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Os ydych angen gwneud cais ar gyfer Cynllun Preswylio'n Sefydlog yr UE, ni fyddwch yn cael hysbyseb gan y Swyddfa Gartref, Llywodraeth y DU/Cymru na'r cyngor. Gallwch wirio'n bersonol ar dudalen we Cynllun Preswylio'n Sefydlog yr UE Llywodraeth y DU.
Os ydych angen gwneud cais, mae'n rhaid i bob aelod o'r teulu wneud cais. Mae hyn yn cynnwys plant ac unrhyw un dan 21 oed.
Am ragor o wybodaeth ar sut i ymgeisio, ewch i wefan Paratoi ar Gyfer Brexit Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.