Peidiwch â theimlo'n gaeth yn eich cartref – byddwch yn greadigol!
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 29 Mai 2020
Mae gwersi rhad ac am ddim ar gyfer dysgu i chwarae'r iwcalili, ysgrifennu straeon, ffotograffiaeth a mwy yn helpu pobl hŷn i osgoi teimlo fel petaent yn gaeth yn eu cartref yn ystod cyfnod cyfyngiadau symud y coronafeirws Covid-19.
Mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhannu rhaglen newydd sydd â'r nod o gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl hŷn tra bo’r cyfyngiadau ar waith.
Mae'r rhaglen ‘Cryfach Gyda'n Gilydd’ yn annog y rhai sy’n cadw pellter cymdeithasol neu’n hunanynysu gartref i fod yn fwy creadigol, ymgymryd â gweithgaredd newydd, neu rannu diddordeb cyfredol ag eraill yn yr un sefyllfa.
Ymhlith y gweithgareddau a awgrymir y mae ysgrifennu creadigol, cadw dyddiadur, tynnu llun ac adrodd stori, dysgu hanfodion chwarae'r iwcalili, defnyddio offeryn cerdd arall i gyfrannu at berfformiad band rhithwir, bod yn rhan o'r côr ar-lein, cofnodi atgofion melys, a mwy.
Mae'r adnoddau hefyd ar gael yn 'Stronger together bridgend' a gallwch weld diweddariadau rheolaidd ar dudalen Cryfach Gyda'n Gilydd Pen-y-bont ar Ogwr ar Facebook.
Mae hwn yn gyfnod cythryblus i bobl o bob oed, ond yn enwedig y rhai a allai fod yn byw ar eu pennau eu hunain, sy'n methu gweld eu teuluoedd, ffrindiau neu gymdogion, ac sydd wedi'u nodi fel rhai sy'n arbennig o agored i’r feirws Covid-19.
Gobeithiwn y bydd y rhaglenni ‘Creadigol Gartref’, a'r gweithgareddau a chymorth a awgrymir, yn cynnig rhywbeth cadarnhaol i'r unigolion hyn ganolbwyntio arno – rhywbeth i godi eu hysbryd – a darparu gwir ymdeimlad o gymuned a phwrpas ar adeg pan fyddant fel arall yn teimlo'n ynysig, yn fregus ac yn unig o bosib.
Dywedodd y Cynghorydd Phil White, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ychwanegodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen – yr elusen gofrestredig sy'n rheoli gwasanaethau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae ymchwil yn dangos bod dechrau hobi newydd neu ailddechrau hen hobi sydd wedi’i anghofio eto yn ffordd wych o gadw'ch meddwl yn heini ac yn iach ac i godi'ch ysbryd.
“Rydym wedi awgrymu amrywiaeth eang o wahanol weithgareddau yn y pecyn, p’un a ydych ar-lein neu’n peidio â defnyddio cyfrifiadur neu ffôn symudol o gwbl, a byddwn yn darparu'r gefnogaeth angenrheidiol er mwyn eich rhoi ar y ffordd.
“Gobeithiwn y bydd y rhain yn eich ysbrydoli i fod yn greadigol, ac efallai'n tynnu eich sylw ac yn codi gwên, tra'ch bod yn cadw'n ddiogel gartref yn ystod y cyfnod heriol hwn.”