Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Peidiwch â cholli eich cyfle i rannu eich safbwyntiau ar Gynllun Datblygu Lleol

Mae amser ar ôl o hyd i ddweud eich dweud ar uwchgynllun drafft a ddefnyddir i benderfynu pa fathau o ddatblygiadau all ddigwydd ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr rhwng nawr a 2033.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd, sydd ar hyn o bryd yn y cam drafft, yn cynnwys yr holl bolisïau y bydd yr awdurdod yn eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol.

Mae'n amlinellu sut y gellir defnyddio tir, a pha rannau o'r fwrdeistref sirol fydd yn cael eu cynnal fel man agored neu’n cael eu dynodi at ddibenion preswyl, cyflogaeth, manwerthu, gwastraff, datblygu mwynau, y gymuned a thwristiaeth.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y gweill i gynnig y cyfle i drigolion lleol gael dweud eu dweud a helpu i lywio’r cynllun.

Mae'r CDLl yn ceisio sicrhau bod yna ddigon o gartrefi newydd i ddiwallu anghenion cymunedau sy'n tyfu o fewn y fwrdeistref sirol tra hefyd yn darparu seilwaith a chyfleusterau newydd, a denu buddsoddiad economaidd newydd i'r ardal.

Ei nod yw cefnogi’r gwaith o greu 5,000 o swyddi ychwanegol, darparu datblygiadau ac adfywiadau newydd o fewn Pen-y-bont ar Ogwr, Pencoed, Maesteg, y Pîl a Phorthcawl, ac i sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cyfrannu'n gadarnhaol at greu neu wella amgylcheddau lle gall pobl, cymunedau, busnesau a natur ffynnu.

Mae amser o hyd i bobl ddweud eu dweud, ac rwy’n gobeithio y bydd cyn nifer o drigolion â phosibl yn cymryd cipolwg ac yn rhannu eu safbwyntiau.

Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau

Gallwch weld y cynllun a dweud eich dweud drwy fynd i wefan y cyngor. Mae fformatau eraill ar gael ar ofyn, a bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar ddydd Mawrth 27 Gorffennaf.

Chwilio A i Y