Peidiwch â cholli cynnig CDP rhad ac am ddim
Poster information
Posted on: Dydd Llun 22 Chwefror 2021
Mae gan bobl sy’n gyrru tacsis a cherbydau llogi preifat yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr tan 5 Mawrth i fanteisio ar gynnig arbennig a fydd yn darparu pecyn CDP gwerth mwy na £70.
Yn rhan o fenter barhaus Llywodraeth Cymru a ddyluniwyd i helpu i gadw gyrwyr tacsi a PHV trwyddedig yn ddiogel rhag lledaeniad y coronafeirws Covid-19, mae’r cynllun yn darparu pecyn CDP rhad ac am ddim yn cynnwys gwerth chwe mis o gynhyrchion glanhau a hylendid.
Mae’r pecynnau wedi'u dylunio i sicrhau bod cerbydau mor ddiogel â phosib i yrwyr a theithwyr, ac yn cyflwyno mesurau sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno ar fathau eraill o drafnidiaeth, i dacsis a cherbydau llogi preifat mesurau sydd eisoes wedi’u cyflwyno ar ddulliau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae pob pecyn yn cynnwys pum litr o ddiheintydd aml-bwrpas, potel chwistrellu, chwe diheintydd dwylo ewyn 500ml, 100 o lieiniau wedi'u plygu, dau orchudd wynebu meddygol y gellir eu golchi, bocs gyda 50 gorchudd wynebu y gellir eu taflu, a bron i 500 o weipiau glanhau.
I ddysgu mwy ac ymgeisio i’r cynllun, ewch i’r wefan We Are Lyreco cyn y dyddiad cau ar 5 Mawrth 2021.
Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.