Peidiwch â cholli allan ar leoedd i blant mewn ysgolion a meithrinfeydd
Poster information
Posted on: Dydd Iau 12 Mawrth 2020
Mae aelod y cabinet ar gyfer addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi annog rhieni a gofalwyr i sicrhau eu bod yn cyflwyno ceisiadau mewn amser i sicrhau lleoedd ar gyfer eu plant mewn ysgolion a meithrinfeydd.
Cafodd polisi derbyniadau ysgolion2021-22 ei gymeradwyo gan gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Mawrth, 10 Mawrth fel rhan o broses flynyddol.
Mae'n cwmpasu agweddau sy'n amrywio o ardaloedd dalgylch ysgolion a threfniadau gydag awdurdodau lleol eraill ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a chapasiti ysgolion.
Mae hefyd yn cynnwys y dyddiadau sydd i ddod ar gyfer cyfnodau derbyn i feithrinfeydd ysgol, ysgolion babanod, ysgolion iau, ysgolion cynradd ac uwchradd, a dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno apeliadau.
Nid oes unrhyw newid sylweddol ym mholisi 2021-22 ond mae'n amlinellu pethau’n gliriach fel bod unrhyw riant neu ofalwr sy'n ystyried gwneud cais am le mewn ysgol ar gyfer eu plentyn yn gallu gweld y drefn a'r meini prawf ar gyfer derbyn.
Mae gennym ychydig o negeseuon allweddol ar gyfer rhieni a gofalwyr - yn gyntaf, mae angen gwneud cais ar gyfer lleoedd mewn ysgolion, hyd yn oed os yw'ch plentyn mewn un ysgol, peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd yn symud yn awtomatig i’r ysgol nesaf.
Yn ail, mae cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiad cau yn hanfodol dros ben, ac yn drydydd, os yw rhieni yn meddwl am symud tŷ, mae angen iddynt gysylltu â’n gwasanaethau addysg cyn gynted â phosibl, a chael cyngor ar newid ysgol os yw hynny'n mynd i fod yn rhan o'r broses symud.
Aelod y cabinet dros addysg ac adfywio'r cyngor, Charles Smith
Ar gyfer y flwyddyn i ddod, mae gan rieni a gofalwyr hyd at 27 Mawrth, 2020 i wneud cais am leoedd i blant mewn meithrinfeydd yn dechrau naill ai'n llawn amser yn yr hydref neu'n rhan amser ym mis Ionawr neu Ebrill 2021.
Byddant wedyn yn derbyn hysbysiad o ganlyniad y ceisiadau i feithrinfeydd llawn amser ar 15 Mai a rhan amser, ym mis Tachwedd.
Yn ogystal â chwblhau ffurflenni papur traddodiadol, gall preswylwyr wneud cais ar-lein hefyd drwy wasanaeth ’Fy Nghyfrif’ y cyngor.
Y dyddiad cau er mwyn cyflwyno apeliadau ynghylch derbyniadau i ysgolion uwchradd ar gyfer disgyblion sy'n trosglwyddo o ysgolion iau a chynradd yw 20 Mawrth, 2020.
Caiff rhieni a gofalwyr eu hysbysu ynglŷn â ph’un a yw eu cais am le ar gyfer plant sy'n trosglwyddo o ysgol fabanod i ysgol iau, neu i ddosbarth derbyn mewn ysgol gynradd, wedi'i dderbyn neu ei wrthod, ar 16 Ebrill, gyda'r dyddiad cau ar gyfer apeliadau ar 8 Mai.
Am ragor o wybodaeth, ewch i bridgend.gov.uk/cy