Pecyn cymorth newydd i helpu busnesau i ailgychwyn yn dilyn COVID-19
Poster information
Posted on: Dydd Iau 23 Gorffennaf 2020
Bydd cyfres raddol o gyfraddau rhent rhatach yn cael eu cyflwyno i gefnogi busnesau bach a chanolig ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth iddynt ailgychwyn yn dilyn cyfyngiadau symud y pandemig.
Bydd masnachwyr yn derbyn gostyngiad o 75 y cant ym mis Awst, gostyngiad o 50 y cant ym mis Medi, a gostyngiad o 25 y cant ym mis Hydref.
Tra bod y pandemig wedi bod ar waith, nid yw busnesau wedi gorfod talu rhent i ddefnyddio adeilad sy'n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y pedwar mis diwethaf.
Mae darpariaeth ar gyfer parcio yn rhad ac am ddim, sydd wedi bod ar waith ym meysydd parcio’r cyngor yng nghanol y dref, hefyd yn cael ei hymestyn am fis arall fel rhan o'r cymorth.
Mae'r cymorth hwn wedi'i anelu at fusnesau bach a chanolig eu maint fel deiliaid stondinau ym Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr a Marchnad Awyr Agored Maesteg, deiliaid unedau cychwynnol diwydiannol a mwy.
Gwnaeth y cyngor atal rhenti tra bod cyfyngiadau symud y pandemig coronafeirws COVID-19 ar waith fel rhan o becyn cymorth ychwanegol gwerth £200,000. Nawr bod busnesau ar agor ac yn masnachu unwaith eto, bydd cyfres raddol o gonsesiynau rhent yn rhoi seibiant i fusnesau y mae ei angen yn fawr arnynt wrth iddynt geisio adfer a dychwelyd i'r drefn arferol.
Rydym hefyd yn ymestyn y ddarpariaeth parcio yn rhad ac am ddim mewn meysydd parcio yng nghanol y dref a gynhelir gan y cyngor er mwyn cynnig cymorth ychwanegol, ac rydym yn annog pobl i siopa'n lleol ac yn ddiogel.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Mae cymorth arall a gynigiwyd gan y cyngor wedi cynnwys prosesu a dyfarnu mwy na £28 miliwn mewn grantiau cymorth ariannol, hyfforddiant ailgychwyn yn rhad ac am ddim, tystysgrifau a sticeri ffenestri i dawelu meddwl cwsmeriaid, offer ‘gardiau rhag tisian’ am ddim a mwy.