Partneriaeth rhwng y Cyngor a Halo'n ennill prif wobr y DU
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 26 Mawrth 2019
Mae gwasanaethau sy'n annog pobl i fyw bywydau iach a mwy heini ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu cydnabod yn swyddogol fel y gorau yn y DU.
Mae asesydd ansawdd Quest yn niwydiant hamdden y DU wedi dyfarnu'r wobr gyntaf i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Halo Leisure yn y categori ar gyfer y wobr 'Cymunedau Heini' ar gyfer eu gwaith ochr yn ochr ag ysgolion lleol, clybiau a sefydliadau cymunedol.
Cafodd y cyngor a Halo sgôr 'ardderchog' fel cydnabyddiaeth o'r gwasanaeth cyffredinol o safon uchel a gynigir gan eu partneriaeth lwyddiannus - un o'r saith sgôr a ddefnyddir gan Quest wrth fesur effeithiolrwydd cyfleusterau hamdden a thimau rheoli chwaraeon.
Mae pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wir wedi mynd i'r afael â'r ymgyrch genedlaethol i fyw bywydau mwy iach a heini, ac mae ymweliadau â'n canolfannau hamdden a'n pyllau nofio wedi cynyddu'n sylweddol ers i'r cyngor a Halo ddechrau eu partneriaeth saith mlynedd yn ôl. Mae cael eich cydnabod yn swyddogol fel y gorau yn y DU yn gamp anhygoel. Rydym yn hynod o falch bod y wobr hon yn cydnabod ffordd o weithio mewn partneriaeth a'r gwaith a wneir gan ysgolion lleol, clybiau a sefydliadau cymunedol.
Edrychodd aseswyr o Quest ar amrediad o ffactorau a oedd yn cynnwys sut y cefnogir pobl anabl, sut rydym yn annog pobl nad ydynt yn heini i ddod yn heini, ein hymgysylltiad â phlant a phobl ifanc, ein dull rheoli ariannol a datblygu busnes, y rhaglen atgyfeirio pobl i wneud ymarfer corff, cyfraddau ymgysylltu â phobl hŷn a mwy.
Gydag achrediad Quest yn ei le ym mhob un o'n canolfannau hamdden a phyllau nofio, mae'r wobr yn adlewyrchu mentrau megis ein Parthau Teulu Egnïol neu sesiynau Olympage sy'n chwilio am gyfranogiad gan ystod ehangach o bobl, nid dim ond helpu pobl sy'n mynd i'r gampfa'n rheolaidd i ddod yn fwy heini. Mae hon yn gamp arbennig sydd wirioneddol yn dangos ansawdd y gwasanaeth a hoffwn ddiolch a llongyfarch pawb sydd wedi helpu i wneud y gwasanaeth yn un llwyddiannus.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol
Dywedodd Simon Gwynne, Rheolwr Partneriaeth Byw'n Iach Halo: “Mae cael ein gwobrwyo â'r achrediad uchaf posibl gan Quest yn y categori 'Cymunedau Heini' yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn falch iawn ohono.
“Mae'r ffaith bod ein partneriaeth wedi'i gwobrwyo fel y tîm 'Cymunedau Heini' sydd â’r perfformiad gorau ar draws y DU gyfan wedi ein syfrdanu'n llwyr, ac yn rhoi sicrwydd inni ein bod wir yn llwyddo i gael mwy o bobl leol i gadw’n heini, a hynny’n amlach.”