Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Partïon stryd y Jiwbilî ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hatgoffa i beidio gadael pethau’n rhy hwyr os ydynt eisiau ymgeisio am gau ffordd dros dro a chynnal parti stryd fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines sydd ar y ffordd.

Gyda gŵyl y banc pedwar diwrnod yn digwydd rhwng dydd Iau 2 Mehefin - Dydd Sul 5 Mehefin ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau cenedlaethol i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines, mae angen cyflwyno ceisiadau i gau ffordd o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn unrhyw ddigwyddiad.

Mae hyn yn golygu dyddiad cau 19 Mai ar gyfer digwyddiadau sydd wedi eu cynllunio i’w cynnal ddydd Iau 2 Mehefin, a dyddiad cau 20 Mai ar gyfer digwyddiadau sydd wedi eu cynllunio i’w cynnal ddydd Gwener 3 Mehefin, ac yn y blaen.

Os hoffech drefnu eich digwyddiad eich hunan ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, dyma beth sydd angen ichi ei wybod:

 

  • Cynlluniwch ymlaen llaw - meddyliwch beth ydych eisiau ei gyflawni, a ble ydych eisiau cynnal y digwyddiad. Os yw'r digwyddiad ar dir o eiddo'r cyngor neu'n ymwneud â stryd / priffordd, cysylltwch â'r awdurdod lleol cyn gynted ag y bo modd.

 

  • Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi ceisiadau i gau ffyrdd i alluogi parti stryd gael ei gynnal cyn belled â bod y lleoliad yn addas i'r math yma o ddigwyddiad - er enghraifft, heol bengaead neu ffordd fechan heb lawer o draffig.

 

  • Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi ceisiadau i gau ffyrdd i alluogi parti stryd gael ei gynnal cyn belled â bod y lleoliad yn addas i'r math yma o ddigwyddiad - er enghraifft, heol bengaead neu ffordd fechan heb lawer o draffig. Nid yw priffyrdd cyhoeddus sydd yn ffyrdd dosbarth A, B neu C yn addas ar gyfer ceisiadau i'w cau.

 

  • Tra nad oes cost i wneud cais am gau ffordd dros dro, mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau 10 diwrnod cyn y digwyddiad a gynllunnir. Gallwch anfon y rhain at streetparty@bridgend.gov.uk.

 

  • Bydd angen i geisiadau ddangos bod trigolion y stryd yn gefnogol i'r cais i gau'r ffordd. Dylid enwi trefnydd penodedig ynghyd â'u manylion cyswllt sy'n gwbl gyfrifol am y parti stryd a'r cais i gau'r ffordd.

 

  • Bydd angen i'r trefnydd penodedig ddarparu manylion yn dangos bod asesiad risg wedi cael ei gwblhau, a bod mesurau priodol mewn lle i gau'r ffordd yn ddiogel, i gyfyngu mynediad i draffig er mwyn diogelwch y cyhoedd ac i gynnal y cau ffordd yn ddigonol tra bod y digwyddiad yn cael ei gynnal.

 

  • Dylid enwi trefnydd penodedig ynghyd â'u manylion cyswllt sy'n gwbl gyfrifol am y parti stryd a'r cais i gau'r ffordd. Mae cytuno gyda chymdogion i ddod â bwyd i'w rannu yn y digwyddiad yn ffordd dda o ddod â gwahanol bobl ynghyd.

 

  • Os ydych eisiau bar, yn bwriadu darparu adloniant i gyhoedd ehangach neu godi tâl i godi arian ar gyfer y digwyddiad, byddwch angen Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro rhad ac am ddim a chyfnod hysbysiad o 10 diwrnod gwaith o leiaf. Os yw'ch digwyddiad yn debygol o gynnwys mwy na 500 o bobl, bydd angen Trwydded Safle arnoch - ymwelwch â'n gwefan Licensing am fwy o wybodaeth.

 

  • Ar gyfer partïon stryd preswyl bychan, mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn cael ei argymell, ond nid yw'n hollol hanfodol. Fodd bynnag, byddai'n werth ei ystyried ar gyfer digwyddiadau mwy - am gyngor pellach, ewch i streetparty.org.uk.

 

  • Ystyriwch a oes rhywun cymwys ar gael sydd wedi eu hyfforddi i ddarparu Cymorth Cyntaf yn y digwyddiad. Os yw'r digwyddiad yn debygol o achosi sŵn, rhowch wybod i gymdogion a busnesau yn yr ardal ymlaen llaw, a rhowch fanylion cyswllt y trefnydd iddyn nhw rhag ofn y bydd problemau.

 

  • Cofiwch y bydd angen ichi glirio ar ôl eich parti stryd, felly cadwch eich ardal leol yn lân a thaclus. Rhowch wybod i bobl ymlaen llaw pryd fydd y parti'n gorffen, a sicrhewch fod gennych adran ar gyfer bagiau bin ac ailgylchu.

 

I gael gwybod mwy am drefnu a chynnal parti stryd, ewch i www.streetparty.org.uk

Chwilio A i Y