Parseli prydau bwyd ysgol am ddim yn cael eu danfon dros y gwyliau hanner tymor
Poster information
Posted on: Dydd Iau 27 Mai 2021
Bydd bob disgybl sy'n gymwys i dderbyn prydau bwyd ysgol am ddim yn derbyn parsel bwyd ar gyfer y gwyliau hanner tymor. Oherwydd gŵyl y banc ddydd Llun 31 Mai, bydd parseli'n cael eu danfon ddiwrnod yn hwyrach na'r arfer.
Ni fydd unrhyw un sydd wedi optio allan o'r ddarpariaeth o'r blaen yn derbyn parsel bwyd oni bai eu bod yn e-bostio fsmcovid19@bridgend.gov.uk i newid hyn.
Bydd parseli'n cael eu danfon i gyfeiriad cartrefi disgyblion cymwys ar y diwrnodau canlynol:
Dydd Mawrth 1 Mehefin
Caerau, Cwmfelin, Garth, Llangynwyd, Maesteg, Nantyffyllon ac unrhyw ardaloedd y tu allan i'r sir.
Dydd Mercher 2 Mehefin
Nant-y-moel, Cwm Ogwr, Pantyrawel, Pricetown, Lewistown, Melin Ifan Ddu, Evanstown, Gilfach Goch, Blaengarw, Pontycymer, Llangeinwyr, Braich-y-Cymer, Pant-y-gog, Pontyrhyl, Y Pîl, Bryn Cynffig, Cefn Cribwr, Gogledd Corneli a De Corneli.
Dydd Iau 3 Mehefin
Notais, Y Drenewydd, Porthcawl, Abercynffig, Betws, Goytre-hen, Brynmenyn, Tondu, Sarn, Bryncethin, Bryncoch ac Ynysawdre.
Dydd Gwener 4 Mehefin
Pencoed, Penprysg, Llangrallo, Heol Y Cyw, Rhiwceiliog, Coety, Y Llidiart, Pen-y-fai, Cefn Glas, Broadlands, Bryntirion, Bracla, Trelales, Melin Wyllt a thref Pen-y-bont ar Ogwr.