Parseli prydau bwyd ysgol am ddim yn cael eu danfon dros wyliau'r Pasg
Poster information
Posted on: Dydd Llun 29 Mawrth 2021
Bydd bob disgybl sy'n gymwys i dderbyn prydau bwyd ysgol am ddim yn derbyn parsel bwyd ar gyfer gwyliau'r Pasg, sy'n para pythefnos. Oherwydd gŵyl y banc ddydd Llun 5 Ebrill, bydd parseli'n cael eu danfon ddiwrnod yn hwyrach na'r arfer yn yr ail wythnos.
Ni fydd unrhyw un sydd wedi optio allan o'r ddarpariaeth o'r blaen yn derbyn parsel bwyd oni bai eu bod yn e-bostio FSMCOVID19@bridgend.gov.uk i adfer hyn.
Bydd parseli'n cael eu danfon i gyfeiriad cartrefi disgyblion cymwys ar y diwrnodau canlynol:
Dydd Llun 29 Mawrth a dydd Mawrth 6 Ebrill
Caerau, Cwmfelin, Garth, Llangynwyd, Maesteg, Nantyffyllon ac unrhyw ardaloedd y tu allan i'r sir.
Dydd Mawrth 30 Mawrth a dydd Mercher 7 Ebrill
Nant-y-moel, Cwm Ogwr, Pantyrawel, Pricetown, Lewistown, Melin Ifan Ddu, Evanstown, Gilfach Goch, Blaengarw, Pontycymer, Llangeinwyr, Braich-y-Cymer, Pant-y-gog, Pontyrhyl, Y Pîl, Bryn Cynffig, Cefn Cribwr, Gogledd Corneli a De Corneli.
Dydd Mercher 31 Mawrth a dydd Iau 8 Ebrill
Notais, Y Drenewydd, Porthcawl, Abercynffig, Betws, Goetre-hen, Brynmenyn, Tondu, Sarn, Bryncethin, Bryncoch, Ynysawdre, Pencoed, Penprysg, Llangrallo, Heol y Cyw a Rhiwceiliog.
Dydd Iau 1 Ebrill a dydd Gwener 9 Ebrill
Coety, Y Llidiart, Pen-y-fai, Cefn Glas, Broadlands, Bryntirion, Bracla, Trelales, Melin Wyllt a thref Pen-y-bont ar Ogwr.