Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Parseli bwyd ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion uwchradd

Gan fod disgyblion ysgolion cynradd yn dychwelyd i’r ysgol, dim ond disgyblion ysgolion uwchradd bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n gymwys i gael prydau bwyd ysgol am ddim, fydd yn cael parsel bwyd ar gyfer yr wythnosau sy’n cychwyn dydd Llun 15 Mawrth a dydd Llun 22 Mawrth.

Ni fydd unrhyw un sydd wedi optio allan yn flaenorol o’r ddarpariaeth yn cael parsel bwyd oni bai eu bod yn ebostio FSMCOVID19@bridgend.gov.uk i drefnu hynny.

Danfonir parseli i gartrefi pob disgybl cymwys ar y diwrnodau canlynol:

Dydd Llun
Caerau, Cwmfelin, Garth, Llangynwyd, Maesteg, Nantyffyllon ac unrhyw ardaloedd alla o’r sir.

Dydd Mawrth
Nantymoel, Bro Ogwr, Pantyrawel, Pricetown, Lewistown, Melin Ddu, Evanstown , Gilfach Goch, Blaengarw, Pontycymer, Llangeinor, Braich-Y-Cymer, Pantygog, Pontyrhyl, Y Pîl, Mynydd Cynffig, Cefn Cribwr, Gogledd Corneli a De Corneli.

Dydd Mercher
Notais, Newton, Porthcawl, Abercynffig, Betws, Coytrahen, Brynmenyn, Tondu, Sarn, Bryncethin, Bryncoch, Ynysawdre, Pencoed, Penprysg, Llangrallo, Heol Y Cyw a Rhiwceiliog

Dydd Iau
Coety, Y Llidiart, Penyfai, Cefn Glas, Broadlands, Bryntirion, Bracla, Trelales, Wildmill, a thref Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y