Parseli bwyd ar gyfer plant sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim i ddechrau wythnos nesaf
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 22 Ebrill 2020
Bydd parseli bwyd ar gyfer disgyblion sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yn cael eu dosbarthu i gartrefi o wythnos nesaf ymlaen.
Bydd y parsel bwyd, a fydd yn cyrraedd yn wythnosol, yn cynnwys digon o eitemau bwyd i ddarparu brecwast a chinio i blentyn am bum diwrnod. Ar gyfer disgyblion sydd â gofynion deietegol arbennig, darperir dewis o brydau wedi'u rhewi am bum diwrnod.
Bydd y parseli bwyd yn cymryd lle'r ddarpariaeth pecyn bwyd bresennol.
Mae'r prosiect hwn yn dangos ymrwymiad yr awdurdod lleol i barhau i gefnogi disgyblion sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod anodd hwn. Bydd rhai parseli yn cael eu dosbarthu ar ddydd Mawrth wythnos nesaf, tra bydd eraill yn cyrraedd ar ddydd Mercher neu ddydd Iau. Byddwn yn dosbarthu 5,000 o barseli bwyd bob wythnos.
Rydym yn gobeithio y bydd y parseli bwyd hyn yn cyfrannu rywfaint at gefnogi teuluoedd ble fyddai'r plant fel arall yn elwa ar brydau ysgol am ddim yn eu hysgolion lleol.
Rydym yn gofyn bod rhieni ar gael i ateb y drws er mwyn casglu'r parsel gan na fydd unrhyw barsel yn cael ei adael heb i rywun ei gasglu. Bydd y staff sy'n dosbarthu’r parseli, fodd bynnag, yn dilyn y mesurau cadw pellter cymdeithasol.
Charles Smith, yr aelod cabinet dros addysg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr