Parhau i ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 29 Hydref 2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi y dylid parhau i ddefnyddio gorchuddion wyneb ym mhob ysgol uwchradd ar draws y rhanbarth.
Rhoddwyd y mesur dros dro ar waith yn wreiddiol ar ddechrau mis Hydref, pan oedd achosion o goronafeirws yn dechrau codi ymysg pobl ifanc.
Yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2021, penderfynwyd y dylid parhau i ddefnyddio gorchuddion wyneb gan fod cyfraddau trosglwyddo Covid-19 yn parhau ar eu huchaf yn y band oedran 10-19 mlwydd oed. Bydd hyn yn cael ei adolygu'n barhaus.
Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae ysgolion uwchradd wedi cynnal y defnydd o orchuddion wyneb fel rhan o’u mesurau rheoli Covid-19. Mae hyn yn golygu bod gorchuddion wyneb eisoes yn cael eu defnyddio, nid yn unig mewn ardaloedd cymunedol fel coridorau a neuaddau, ond hefyd mewn ystafelloedd dosbarth.
Mae gorchuddion wyneb yn cynnig diogelwch ychwanegol rhag haint i ddisgyblion a staff, ac maent eisoes yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â mesurau rheoli presennol fel profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos.
Rydym yn croesawu ac yn cefnogi’r penderfyniad i ymestyn y mesur hwn, ac yn annog yr holl ddisgyblion i sicrhau eu bod yn gwisgo gorchudd wyneb yn yr ysgol.
Mae gorchuddion wyneb eisoes yn cael eu gwisgo yn ein hysgolion fel rhan o fesurau rheoli lleol, ac wrth i achosion ymysg pobl ifanc barhau i gynyddu, mae gwisgo gorchudd wyneb yn ffordd effeithiol o liniaru’r risg o ledaenu Covid-19.
Rydym yn parhau i annog pawb dros 16 oed nad ydynt wedi cael eu dos cyntaf o’r brechiad eto, fynd i ganolfan frechu gymunedol. Gallwch alw heibio unrhyw ganolfan heb apwyntiad rhwng 11am a 4.30pm.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Yn y cyfamser, mae brechiadau’n dal i gael eu cynnig i bawb rhwng 12-15 oed, gyda’r bwriad bod yr holl apwyntiadau’n cael eu cynnig cyn diwedd hanner tymor.
Mae'r ganolfan frechu ar gael yn Ravens Court, yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AP). Bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod gyda chi, fel pasbort, trwydded yrru neu fil cyfleustodau fel prawf o’ch cyfeiriad.
Mae manylion canolfannau brechu eraill yn y rhanbarth ar gael ar wefan y bwrdd iechyd.